Denu Mwy o Ddigwyddiadau Mawr i Gymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:17, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed ein bod wedi gwario oddeutu £6 miliwn ar ddigwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru ers tua 2008. Wrth gwrs, mae'n gwbl wir, yn aml iawn, y bydd y digwyddiadau rhyngwladol hyn yn canolbwyntio ar brifddinas; weithiau, mae hynny'n ofyniad gan rai o'r sefydliadau hyn. Ond os edrychwch ar beth rydym yn ei wneud—er enghraifft, gŵyl gerddoriaeth drefol yn Wrecsam yw FOCUS Wales, ac mae'n hynod lwyddiannus; Gŵyl Rhif 6—byddwch wedi clywed amdani—ym Mhortmeirion, sy'n llwyddiannus iawn. Yn anffodus, nid fydd yn cael ei chynnal eleni, ond mae'r Good Life Experience yn un arall yng ngogledd Cymru, ac wrth gwrs, gŵyl ryngwladol Llangollen, y Tour of Britain, digwyddiad beicio ffordd proffesiynol mwyaf y DU, ac wrth gwrs, Rali Cymru GB. Felly, rydym eisoes yn gwneud llawer yng ngogledd Cymru.