Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 30 Ionawr 2019.
Mae Mandy Jones yn llygad ei lle yn nodi bod gan brifddinas Cymru hanes da iawn o ddenu digwyddiadau mawr, yn enwedig ym maes chwaraeon. Un enghraifft o'r hyn y gellid ei ddisgrifio'n adborth adeiladol a gawn weithiau gan gyrff trefnu ac ymwelwyr, fodd bynnag, yw y byddai'n well pe na bai pobl sy'n dod yma ar y ffyrdd yn cael eu dal mewn tagfeydd, yn aml am oriau, drwy dwnelau Bryn-glas. A yw'r Gweinidog yn credu felly y dylid datrys y broblem hon drwy gyflawni'r addewid yn eu maniffesto ar gyfer Cymru i ddarparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4?