Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 30 Ionawr 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn i fy ffrind a fy nghyn gyd-Aelod Mohammad Asghar am ei gwestiwn. Roeddwn am gael hynny i mewn. [Chwerthin.]
Cwblhawyd adolygiad o'r rhaglen nofio am ddim ym mis Medi 2018. Ac fel rhan o argymhellion yr adolygiad hwnnw, mae opsiynau ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol yn cael eu datblygu, a disgwyliaf iddynt gael eu cyflwyno i mi cyn bo hir. Yna, byddaf yn gwneud penderfyniad ynghylch cyfeiriad y rhaglen ar gyfer y dyfodol.