Y Cynllun Nofio Am Ddim i Blant a Phensiynwyr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:22, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Canfu adroddiad diweddar gan Chwaraeon Cymru nad yw'r cynllun nofio am ddim i blant a phensiynwyr yn addas i'r diben mwyach, a bod angen ei newid yn sylweddol. Dywedai hefyd nad oedd y cynllun ond yn costio hanner y £3 miliwn blynyddol o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, ond bod cynghorau'n dibynnu ar yr incwm hwn oherwydd y toriadau i'w cyllidebau. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Chwaraeon Cymru ynghylch canfyddiadau'r adroddiad hwn, ac a wnewch chi gadarnhau eich bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r cynllun hwn, sy'n cynnig manteision iechyd sylweddol i bobl ifanc a'r henoed yn ein cymdeithas?