Y Cynllun Nofio Am Ddim i Blant a Phensiynwyr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:26, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym bellach yn gwneud mwy a mwy o waith ar draws y Llywodraeth a gyda llywodraeth leol ar hyrwyddo pob math o weithgarwch corfforol, a byddaf yn sicr o atgoffa'r awdurdodau lleol drwy eu cysylltiadau uniongyrchol â ni yn y grŵp hwnnw sydd wedi bod yn astudio'r mater hwn nad oes pwynt cael cynllun nad yw'n cael ei ddefnyddio oherwydd methiant i hyrwyddo. Ac felly, yn y gwaith cyffredinol a wnawn ar hyrwyddo gweithgarwch corfforol ar draws y Llywodraeth, byddwn yn rhoi sylw arbennig i'r ardaloedd o amddifadedd, a allai, ynghyd â holl ardaloedd eraill ein cymdeithas ledled Cymru, elwa fwyaf o'r cynlluniau hyn ac o fwy o weithgarwch corfforol.