Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 30 Ionawr 2019.
Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog edrych ar y ffordd y caiff nofio am ddim ei hyrwyddo yn eich adolygiad, oherwydd cofiaf, yr haf diwethaf, yn fy etholaeth i—mae canolfan hamdden Pentwyn yn gyfleuster gwych, ond ni châi ei hysbysebu'n dda yn yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is ger y ganolfan hamdden, a dyna'r bobl sydd angen eu hysbysu fwyaf pa bryd y gallant fynd i nofio am ddim, gan nad oes ganddynt arian i fynd i nofio oni bai ei fod am ddim. Felly, tybed a wnewch chi edrych ar hynny, oherwydd, os yw arian yn dynn, ymddengys i mi ei bod yn hanfodol mai'r bobl na allant fforddio mynd i nofio fel arall yw'r rhai y dylid blaenoriaethu'r wybodaeth hon ar eu cyfer.