Y Cynllun Nofio Am Ddim i Blant a Phensiynwyr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:23, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, rwy'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig. Rwy'n awyddus iawn i ddatblygu rhaglen gyffredinol o weithgarwch corfforol yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod bod nofio yn weithgaredd corfforol da iawn y dylid ei annog yn eang, ynghyd â gweithgareddau corfforol eraill. Yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w weld yn datblygu yw'r opsiwn i fwy o bobl yng Nghymru gymryd rhan. Nid ein bwriad, mewn unrhyw ystyr, yw lleihau maint y cyllid i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, ond yn hytrach, ehangu'r posibiliadau.