Y Cynllun Nofio Am Ddim i Blant a Phensiynwyr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:24, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth gan fy nghyd-Aelod presennol, Mike Hedges, ar y mater hwn. Rwy'n awyddus iawn i weld yr ymateb i weithgarwch Chwaraeon Cymru o ran asesu'r adroddiad cyntaf a gynhyrchwyd ganddynt, ac mae is-grŵp—grŵp llywio'r fenter nofio am ddim—lle caiff awdurdodau lleol, Nofio Cymru a Llywodraeth Cymru eu cynrychioli, wedi bod yn ymgymryd â'r gwaith hwn. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda rhai o aelodau'r bwrdd hwnnw eisoes, a gobeithiaf ystyried eu hadroddiad i mi cyn gynted ag y daw i law. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £30 miliwn tuag at y rhaglen nofio am ddim. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Mohammad Asghar, nid oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar nofio am ddim ar gyfer y grŵp oedran 16 ac iau na'r grŵp dros 60 oed. Fodd bynnag, mae materion yn codi ynghylch effeithiolrwydd y cynllun, ac maent wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiadau rwyf wedi'u derbyn eisoes, a byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Aelodau cyn gynted ag y bydd gennyf rywfaint o wybodaeth.