Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:38, 30 Ionawr 2019

Rŷn ni yn ymwybodol iawn bod yna amgylchiadau pryd mae pobl yn dod mewn i gymuned lle dŷn nhw ddim yn medru'r iaith, yn arbennig yn rhai o'n hardaloedd mwy Cymreig, lle mae angen inni gael y trochi yna pryd maen nhw'n blant ychydig yn hŷn. Mae ysgolion hwyrddyfodiad wedi eu lleoli mewn llefydd o gwmpas Cymru. Yn aml, mae'n rhaid i rai llywodraethau lleol gydweithredu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yna ar gael, ac, wrth gwrs, byddaf i yn cydweithredu gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am addysg i sicrhau y bydd y system yna yn parhau. Wrth gwrs, mae llywodraeth leol o dan lot o bwysau ariannol. Rŷn ni'n ymwybodol iawn ein bod ni eisiau i hyn gario ymlaen a dŷn ni ddim eisiau gweld toriadau yn y maes hwn.