Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 30 Ionawr 2019.
Weinidog, i ddathlu cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, mae Llywodraeth Japan wedi lansio tymor o ddiwylliant rhwng Japan a'r DU. Mae pwyllgor gweithredol yng Nghymru yn hyrwyddo digwyddiadau yma. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn o beth gan y dylem ddathlu ein cysylltiadau â Japan. Maent wedi gwneud cymaint yn economaidd, ac mae gennym lawer o gysylltiadau diwylliannol hefyd, a dyma'r math o beth sydd ei angen arnom er mwyn hyrwyddo Cymru yn well dramor ac adeiladu ar y traddodiadau cyfoethog sydd eisoes wedi'u datblygu yn sylweddol.