Blaenoriaethau Cychwynnol ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:02, 30 Ionawr 2019

Diolch. Dwi yn croesawu'r ffaith bod yna gyfle i ni nawr i ymrwymo gyda beth sy'n digwydd yn y byd ehangach. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ymwybodol hefyd, wrth gwrs, bod hwn yn fater sy'n reserved i raddau helaeth i'r Llywodraeth, ond, wrth gwrs, mae gyda ni ddiddordeb mawr, yn arbennig os oes yna gysylltiadau rhwng pobl Cymru ac ardaloedd eraill y byd. Gaf i jest, ar fater y Cwrdiaid, ddweud fy mod i wedi cwrdd â llysgennad Twrci ddydd Llun ac wedi codi'r mater yma o'r imâm o Gasnewydd sydd wedi bod yn newynu achos ei fod e'n gofidio am yr hyn sy'n digwydd yn Nhwrci? Dwi yn meddwl bod rhaid i ni, wrth gwrs, gofio mai dyma'r degfed gwlad lle rŷn ni'n allforio ein nwyddau ni. Felly, mae'n fasnach pwysig i ni, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y masnach hefyd yn cyd-fynd gyda hawliau dynol.