Gwastraff Bwyd a Gynhyrchwyd ar Ystâd y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:15, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Ie. Mae lefel y gwastraff bwyd a gynhyrchwyd ar ystâd y Cynulliad wedi cynyddu rhywfaint o 4.23 tunnell ar ddiwedd 2017 i 4.59 tunnell ar ddiwedd 2018. Yn amlwg, wrth gynnal gwasanaeth arlwyo, ni fydd modd dileu gwastraff bwyd yn llwyr, ond mae ein contractwr Charlton House yn rhagweithiol iawn ac mae wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys cynllunio'r fwydlen yn ôl galw wythnosol, swp-goginio a chrynhoi cownteri bwyd tuag at ddiwedd cyfnodau gwasanaeth. Yn ogystal, dylem nodi bod ein holl wastraff bwyd yn cael ei gompostio ac mae olew coginio sy'n wastraff yn cael ei drawsnewid yn fiodiesel.