Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 30 Ionawr 2019.
Wel, mae'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn hollol gywir pan ddywed fod llawer o fwyd ar fwydlenni lletygarwch yn cael ei wastraffu—er ei fod yn cael ei gyfrifo fesul y pen, mae'r bwyd sy'n cael ei fwyta yn ddibynnol ar y rhai sy'n mynychu, wrth gwrs. Felly, nid oes llawer iawn y gall Charlton House ei wneud i ailddefnyddio unrhyw fwyd dros ben. Mae rheolau hylendid llymach yn golygu na ellir ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau. Yn amlwg, gydag eitemau fel bisgedi wedi'u pecynnu, byddant yn defnyddio'r rheini ac yn eu hailgylchu. Ond credaf eich bod yn hollol gywir, mae'n drychinebus gweld bwyd da yn cael ei wastraffu pan fo cymaint o bobl angen y bwyd hwnnw'n enbyd.