Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 30 Ionawr 2019.
Cyfarfu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn eu rhanbarthau am y tro cyntaf ar 19 a 26 Ionawr. Roedd yn gyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd, trafod blaenoriaethau a chyfarfod â rhai o Aelodau’r Cynulliad a’r staff am y tro cyntaf. Gwnaethant hefyd gymryd rhan mewn hyfforddiant, a thrafod y cyfarfod cyntaf, sef y penwythnos preswyl, sydd i’w gynnal yn y lle yma rhwng 22 a 24 Chwefror.