Senedd Ieuenctid Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:19, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma yn falch iawn o glywed bod cynnydd eithriadol o gadarnhaol wedi bod. Roeddwn yn ffodus i gwrdd ag Aelodau'r Senedd Ieuenctid o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin ac roeddwn yn llawn edmygedd o'r bobl ifanc ymrwymedig a diddorol yno. Roeddwn hefyd yn llawn edmygedd o'r trefniadau cymorth a oedd ar waith i gefnogi'r bobl ifanc a fydd yn ei chael hi'n fwy anodd i gymryd rhan. Ymhlith y bobl ifanc y cyfarfûm â hwy roedd cynrychiolwyr gofalwyr ifanc a chynrychiolwyr o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, a theimlwn fod y trefniadau hynny'n gweithio'n dda iawn. A wnaiff y Comisiwn barhau i adolygu'r trefniadau hynny er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc sydd, o bosibl, yn ei chael yn fwy anodd i gymryd rhan yn parhau i gael cymorth drwy'r broses?