6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Systemau Gwybodeg GIG Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 30 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:55, 30 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn arbennig o bryderus am y ffaith nad yw'n ymddangos bod pobl yn bod yn agored a'r diffyg tryloywder ar draws y system gyfan. Mae gweddnewidiad digidol yn galw am ddiwylliant agored, ond canfu'r pwyllgor fod diwylliant GGGC yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â hyn. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi patrwm lle'r oedd y sefydliad yn 'or-gadarnhaol' wrth adrodd ar ei gynnydd. Gwelwyd enghreifftiau o hyn dro ar ôl tro wrth i'r pwyllgor gasglu tystiolaeth. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y meddylfryd hwn yn cyd-fynd â meddylfryd y byrddau iechyd a thimau Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ochr yn ochr â GGGC, gan i'r pwyllgor weld amharodrwydd cyfunol i drafod gwir sefyllfa cynnydd yn agored.

Gwelsom hefyd fod tystion yn amharod i gofnodi eu beirniadaeth o gynnydd neu drefniadau. Roedd peth tystiolaeth ysgrifenedig o ddwy ran o'r GIG yn hynod o debyg a rhoddodd hyn yr argraff i'r pwyllgor ein bod yn cael safbwynt wedi'i baratoi ymlaen llaw. O ganlyniad, ni allai'r pwyllgor gael llawer o hyder yn y sicrwydd a gawsom gan GGGC a Llywodraeth Cymru. Os ydym am fynd i'r afael â'r problemau gyda GGGC, mae ystyriaeth agored a gonest o gyflwr presennol y gwasanaeth a'r rhwystrau i gynnydd yn hanfodol. Yn wir, mae'n bur bosibl fod y diwylliant hwn wedi rhwystro'r pwyllgor rhag clywed am ystod gynhwysfawr o faterion sy'n codi a phroblemau. Yn fyr, rydym yn parhau i fod yn ansicr ynglŷn â maint y problemau.

Rydym yn pryderu nad yw GGGC na Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i gydnabod maint a dyfnder y problemau yn agored. Mae'r pwyllgor yn pryderu y gallai'r broblem ddiwylliannol hon fod yn cuddio problemau ehangach a dyfnach na chanfuwyd gennym. Credwn fod angen newid ymddygiad sylfaenol ar ran GGGC a thîm digidol ehangach y GIG os ydym am wneud cynnydd.

Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch arafwch y broses o gyflwyno systemau gwybodeg modern ar draws y GIG yng Nghymru a'r gwendidau sylfaenol yn y trefniadau cymorth a goruchwylio. Mae'n amlwg nad oes neb yn fodlon gyda'r sefyllfa bresennol ac nid oes neb i'w gweld yn barod i gymryd cyfrifoldeb am yr heriau. Mae cyrff y GIG yn teimlo'n rhwystredig ynghylch arafwch y broses o gyflwyno systemau newydd a'r problemau gyda'r systemau sydd ganddynt, ac maent yn poeni am y dryswch o ran pwy sy'n atebol. Mae GGGC yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg cyfeiriad gan y GIG ehangach. Fodd bynnag, i ni, y rhwystredigaeth fwyaf yw'r ffaith y gall systemau digidol wella'r GIG ac ni wneir hanner digon o ddefnydd ohonynt. Enghraifft syml yw bod cofnodion electronig yn arwain at ofal a chanlyniadau gwell i gleifion, ond mewn gormod o achosion, mae'r GIG yn dibynnu ar gofnodion papur hen ffasiwn.

Ni ddaeth y pwyllgor o hyd i fawr o dystiolaeth a ddangosai fod unrhyw beth wedi'i wneud ynglŷn â'r angen i gyflymu'r newid. Derbyniodd prif weithredwr GIG Cymru adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018—ac mewn llythyr i'r pwyllgor hwn, cyfeiriodd at y 18 mis o waith a wnaed. Mae hyn yn awgrymu bod y dystiolaeth gychwynnol wedi'i chasglu tua dwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2016. Nawr, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a'r GIG yn ehangach yn cymryd camau i ddechrau mynd i'r afael â llawer o'r problemau wrth i'r archwilydd cyffredinol wneud ei waith. Serch hynny, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â chyflymder a brys y camau gweithredu, gan na welsom lawer o dystiolaeth o newid.

Mae ein hadroddiad yn cefnogi canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r adolygiad seneddol, ond rydym hefyd yn gwneud pum argymhelliad ein hunain. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, yn ogystal â'i hymrwymiad i nifer o adolygiadau i edrych ar wybodeg a datblygu cynllun gwybodeg cenedlaethol. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig nad oedd yr ymateb, unwaith eto, i'w weld yn cydnabod pryderon dwfn y pwyllgor ynglŷn ag arafwch y broses o gyflwyno systemau gwybodeg newydd ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n ymddangos o hyd nad oes fawr o gydnabyddiaeth o'r ailwampio radical sydd ei angen na'r angen i gyflawni hyn ar frys. Ymddengys ein bod wedi ein dal mewn cyfnod hir o adolygu heb fawr o newid.

Nodwn y bydd canlyniadau'r adolygiadau yn arwain at newid, ond mae angen ei gyflawni'n gyflym gan fod gwybodeg o fewn GIG Cymru wedi methu dal i fyny â thechnoleg fodern, a bob dydd, mae staff o fewn y GIG yn cael trafferth gyda systemau nad ydynt yn gweithio. Nid yw'n ddigon da o gwbl ac mae angen newid agweddau hunanfodlon y rheini sy'n gyfrifol am ddarparu'r systemau hyn o fewn GIG Cymru. Mae'n rhaid iddynt fod yn agored i'r newid sydd ei angen a sylweddoli nad yw'r dull o weithredu wedi gweithio hyd yma.

Disgwylir y bydd adolygiadau a chynllun gwybodeg cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cael eu cwblhau o fewn chwe mis, a byddwn yn disgwyl y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun bryd hynny. Byddwn hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG ehangach yn gweithredu yn ôl yr angen i roi'r adnoddau a'r newidiadau ymarferol sy'n angenrheidiol i wella gwybodeg ar waith o fewn yr amserlen briodol. Rydym wedi gwahodd swyddogion perthnasol i fynychu cyfarfod o'r pwyllgor yn nes ymlaen eleni, ym mis Gorffennaf, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn i ni ar y cynnydd ac i rannu canlyniadau'r adolygiadau sydd ar y gweill. Rydym yn mawr obeithio y bydd adroddiad y pwyllgor yn rhoi hwb i'r broses o wella ac yn darparu system TGCh fodern i bobl Cymru a fydd yn darparu gwasanaethau iechyd yn well yng Nghymru.