– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 30 Ionawr 2019.
Eitem 6 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar systemau gwybodeg y GIG, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i systemau gwybodeg GIG Cymru. Bydd yr Aelodau'n cofio bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, fis Tachwedd diwethaf, wedi cyhoeddi un o'u hadroddiadau mwyaf damniol hyd yma. Mewn gwirionedd, cafodd y gair 'scathing' ei ddefnyddio i ddisgrifio ein dadansoddiad 23 tudalen o systemau gwybodeg GIG Cymru—GGGC yn fyr.
Yn y pwyllgor, disgrifiodd y prif weithredwr a oedd yn gyfrifol am gynnal GGGC ei uchelgeisiau fel rhai blaengar. Fodd bynnag, nid ydym yn ystyried bod hyn yn wir, ac mewn gwirionedd, mae ein hadroddiad wedi amlygu llu o broblemau gyda'r systemau TG camweithredol, hen ffasiwn sy'n cynnal ein GIG. Roedd darllen ein hadroddiad yn brofiad anghysurus. Deilliodd ein hymchwiliad o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar systemau gwybodeg GIG Cymru, a chanfu fod llawer o brosiectau digidol GGGC ar ei hôl hi, ac mai'r unig reswm y mae rhai ohonynt ar amser yw oherwydd bod eu hamserlenni wedi cael eu haildrefnu er mwyn dangos eu bod ar amser. Mae llinellau atebolrwydd yn aneglur, ceir anfodlonrwydd cyffredinol ynglŷn â pherfformiad y systemau ar draws y GIG ac mae systemau mawr wedi methu dro ar ôl tro a hynny'n boenus o gyson.
Mae'n fater o bryder mawr i'r pwyllgor nad yw GGGC, a gafodd ei ystyried gyntaf yn 2003, wedi llwyddo i gadw i fyny â datblygiadau mewn technoleg. Er bod y cynhyrchion technoleg sydd ar gael i ni—mae defnydd o ddydd i ddydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn yr amser hwnnw. Mae staff meddygol yng Nghymru yn dal i gael trafferth gyda systemau TG hen ffasiwn nad ydynt yn cyflawni eu haddewidion. Ac yn wir, ar ôl y Nadolig y llynedd, adroddwyd bod gan GIG Cymru dros 1,000 o beiriannau ffacs sy'n dal i gael eu defnyddio mewn ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu, gyda £550,000 wedi'i wario ar gyflenwadau ers 2015, ac un meddyg teulu yn eu disgrifio fel 'creiriau' y mae angen cael gwared arnynt. Rwy'n siŵr y byddai pab ohonoch yn cytuno, yn enwedig mewn cyfnod lle mae e-bost yn cynnig ffordd gynt a mwy diogel o drosglwyddo gwybodaeth am gleifion, fod hon yn sefyllfa annerbyniol.
Yn anffodus, roedd y teimladau hyn i'w clywed drwy gydol ein hymchwiliad. Clywsom sut y mae staff rheng flaen yn cael trafferth gyda systemau TG hynafol a bregus. Mewn rhai achosion, roedd hyn wedi arwain at fethu paratoi triniaethau cemotherapi a radiotherapi mewn pryd; cleifion yn wynebu oedi ar ôl dod i'r ysbyty i gael triniaeth; a gweithwyr iechyd proffesiynol yn methu cael mynediad at ganlyniadau profion gwaed a chofnodion cleifion. Clywsom fod rhai gweithwyr iechyd proffesiynol wedi troi at gofnodion papur hyd yn oed oherwydd nad oedd systemau TGCh yn ddigon dibynadwy. Mae'r diffygion hyn yn cyfrannu hefyd at debygolrwydd cynyddol o gamgymeriadau a phrofiadau gwael i gleifion.
Nid ydym yn gweld sut y gellir datrys hyn heb ailfeddwl yn radical. Yn 2016, amcangyfrifwyd bod cyfanswm y gost o ddatblygu a chyflwyno'r systemau newydd sydd eu hangen ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn £484 miliwn. Ond ni allai'r pwyllgor ddod o hyd i fawr o dystiolaeth a ddynodai o ble y doi'r arian ac a fyddai'n arian GIG ychwanegol neu i'w ganfod o adnoddau presennol. Mae'r gyllideb ar gyfer gweithredu GGGC yn cael ei defnyddio'n bennaf i gadw'r system TG i fynd. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd arall o sicrhau bod yr arloesedd angenrheidiol yn cael ei gyllido.
Hefyd, mae ein hymchwiliad wedi holi cwestiynau difrifol ynghylch cymhwysedd, gallu a chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Ac eto, rydym wedi darganfod diwylliant o hunan-sensoriaeth a gwadu ymhlith y rhai sy'n gyfrifol am symud yr agenda yn ei blaen, yn GGGC ei hun, yn ogystal â'i bartneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn arbennig o bryderus am y ffaith nad yw'n ymddangos bod pobl yn bod yn agored a'r diffyg tryloywder ar draws y system gyfan. Mae gweddnewidiad digidol yn galw am ddiwylliant agored, ond canfu'r pwyllgor fod diwylliant GGGC yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â hyn. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi patrwm lle'r oedd y sefydliad yn 'or-gadarnhaol' wrth adrodd ar ei gynnydd. Gwelwyd enghreifftiau o hyn dro ar ôl tro wrth i'r pwyllgor gasglu tystiolaeth. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y meddylfryd hwn yn cyd-fynd â meddylfryd y byrddau iechyd a thimau Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ochr yn ochr â GGGC, gan i'r pwyllgor weld amharodrwydd cyfunol i drafod gwir sefyllfa cynnydd yn agored.
Gwelsom hefyd fod tystion yn amharod i gofnodi eu beirniadaeth o gynnydd neu drefniadau. Roedd peth tystiolaeth ysgrifenedig o ddwy ran o'r GIG yn hynod o debyg a rhoddodd hyn yr argraff i'r pwyllgor ein bod yn cael safbwynt wedi'i baratoi ymlaen llaw. O ganlyniad, ni allai'r pwyllgor gael llawer o hyder yn y sicrwydd a gawsom gan GGGC a Llywodraeth Cymru. Os ydym am fynd i'r afael â'r problemau gyda GGGC, mae ystyriaeth agored a gonest o gyflwr presennol y gwasanaeth a'r rhwystrau i gynnydd yn hanfodol. Yn wir, mae'n bur bosibl fod y diwylliant hwn wedi rhwystro'r pwyllgor rhag clywed am ystod gynhwysfawr o faterion sy'n codi a phroblemau. Yn fyr, rydym yn parhau i fod yn ansicr ynglŷn â maint y problemau.
Rydym yn pryderu nad yw GGGC na Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i gydnabod maint a dyfnder y problemau yn agored. Mae'r pwyllgor yn pryderu y gallai'r broblem ddiwylliannol hon fod yn cuddio problemau ehangach a dyfnach na chanfuwyd gennym. Credwn fod angen newid ymddygiad sylfaenol ar ran GGGC a thîm digidol ehangach y GIG os ydym am wneud cynnydd.
Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch arafwch y broses o gyflwyno systemau gwybodeg modern ar draws y GIG yng Nghymru a'r gwendidau sylfaenol yn y trefniadau cymorth a goruchwylio. Mae'n amlwg nad oes neb yn fodlon gyda'r sefyllfa bresennol ac nid oes neb i'w gweld yn barod i gymryd cyfrifoldeb am yr heriau. Mae cyrff y GIG yn teimlo'n rhwystredig ynghylch arafwch y broses o gyflwyno systemau newydd a'r problemau gyda'r systemau sydd ganddynt, ac maent yn poeni am y dryswch o ran pwy sy'n atebol. Mae GGGC yn teimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg cyfeiriad gan y GIG ehangach. Fodd bynnag, i ni, y rhwystredigaeth fwyaf yw'r ffaith y gall systemau digidol wella'r GIG ac ni wneir hanner digon o ddefnydd ohonynt. Enghraifft syml yw bod cofnodion electronig yn arwain at ofal a chanlyniadau gwell i gleifion, ond mewn gormod o achosion, mae'r GIG yn dibynnu ar gofnodion papur hen ffasiwn.
Ni ddaeth y pwyllgor o hyd i fawr o dystiolaeth a ddangosai fod unrhyw beth wedi'i wneud ynglŷn â'r angen i gyflymu'r newid. Derbyniodd prif weithredwr GIG Cymru adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018—ac mewn llythyr i'r pwyllgor hwn, cyfeiriodd at y 18 mis o waith a wnaed. Mae hyn yn awgrymu bod y dystiolaeth gychwynnol wedi'i chasglu tua dwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2016. Nawr, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a'r GIG yn ehangach yn cymryd camau i ddechrau mynd i'r afael â llawer o'r problemau wrth i'r archwilydd cyffredinol wneud ei waith. Serch hynny, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â chyflymder a brys y camau gweithredu, gan na welsom lawer o dystiolaeth o newid.
Mae ein hadroddiad yn cefnogi canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r adolygiad seneddol, ond rydym hefyd yn gwneud pum argymhelliad ein hunain. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn, yn ogystal â'i hymrwymiad i nifer o adolygiadau i edrych ar wybodeg a datblygu cynllun gwybodeg cenedlaethol. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig nad oedd yr ymateb, unwaith eto, i'w weld yn cydnabod pryderon dwfn y pwyllgor ynglŷn ag arafwch y broses o gyflwyno systemau gwybodeg newydd ar draws y GIG yng Nghymru. Mae'n ymddangos o hyd nad oes fawr o gydnabyddiaeth o'r ailwampio radical sydd ei angen na'r angen i gyflawni hyn ar frys. Ymddengys ein bod wedi ein dal mewn cyfnod hir o adolygu heb fawr o newid.
Nodwn y bydd canlyniadau'r adolygiadau yn arwain at newid, ond mae angen ei gyflawni'n gyflym gan fod gwybodeg o fewn GIG Cymru wedi methu dal i fyny â thechnoleg fodern, a bob dydd, mae staff o fewn y GIG yn cael trafferth gyda systemau nad ydynt yn gweithio. Nid yw'n ddigon da o gwbl ac mae angen newid agweddau hunanfodlon y rheini sy'n gyfrifol am ddarparu'r systemau hyn o fewn GIG Cymru. Mae'n rhaid iddynt fod yn agored i'r newid sydd ei angen a sylweddoli nad yw'r dull o weithredu wedi gweithio hyd yma.
Disgwylir y bydd adolygiadau a chynllun gwybodeg cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cael eu cwblhau o fewn chwe mis, a byddwn yn disgwyl y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun bryd hynny. Byddwn hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG ehangach yn gweithredu yn ôl yr angen i roi'r adnoddau a'r newidiadau ymarferol sy'n angenrheidiol i wella gwybodeg ar waith o fewn yr amserlen briodol. Rydym wedi gwahodd swyddogion perthnasol i fynychu cyfarfod o'r pwyllgor yn nes ymlaen eleni, ym mis Gorffennaf, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn i ni ar y cynnydd ac i rannu canlyniadau'r adolygiadau sydd ar y gweill. Rydym yn mawr obeithio y bydd adroddiad y pwyllgor yn rhoi hwb i'r broses o wella ac yn darparu system TGCh fodern i bobl Cymru a fydd yn darparu gwasanaethau iechyd yn well yng Nghymru.
Jenny Rathbone.
A gaf fi dynnu fy enw yn ôl, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd?
O'r gorau. Iawn. Diolch. Mohammad Asghar.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar system wybodeg GIG Cymru. Mae manteision buddsoddi mewn technoleg newydd a TG yn amlwg. Gall gwybodeg greu system gofal iechyd sy'n fwy diogel, hygyrch a chynaliadwy i helpu'r GIG i ddarparu gwell canlyniadau i gleifion a gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau ariannol a dynol. Mae'r adroddiad yn dilyn y dogfennau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd. Er bod y weledigaeth o gofnod electronig am gleifion yn glir ac er bod elfennau allweddol yn eu lle, canfu fod oedi sylweddol o ran ei gweithredu. Aeth ymlaen i ddweud bod gwendidau allweddol yn y trefniadau i gefnogi a goruchwylio gweithrediad y system, ac i sicrhau bod y system yn cyflawni'r manteision a fwriadwyd. Gwnaeth yr archwilydd cyffredinol nifer o argymhellion, ac rwy'n falch o ddweud eu bod wedi cael ymateb cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn yr adroddiad hwn, cytunodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gynnal ei ymchwiliad ei hun i system wybodeg GIG Cymru. Mae'n sicr yn wir fod adroddiad y pwyllgor yn atodol i un yr archwilydd cyffredinol. Yn ystod ein sesiynau gwrando, roedd llawer o bryderon yn codi dro ar ôl tro. Y brif broblem o hyd yw arafwch y broses o ddarparu system wybodeg fodern ar draws y GIG yng Nghymru a'r gwendidau sylfaenol yn y trefniadau cymorth a goruchwylio. Adlewyrchir y pryder hwn yn y rhwystredigaeth a fynegwyd ar draws y GIG ynghylch yr oedi wrth ddarparu cofnodion electronig am gleifion, yn ogystal â phryder ynglŷn â chydnerthedd systemau craidd.
Roeddem wedi gobeithio y byddai cyflymder y newid wedi cynyddu ers adroddiad yr archwilydd cyffredinol flwyddyn yn ôl. Fodd bynnag, nid felly y bu. Mewn gormod o achosion, mae'r GIG yn dal i ddibynnu ar gofnodion papur, trefn sydd wedi dyddio. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn teimlo'n rhwystredig ynghylch diffyg cyfeiriad y GIG yn ehangach, ond gwelsom nad yw'r GIG yn cydnabod yn agored beth yw maint a dyfnder y broblem o hyd. Gall hyn fod yn arwydd o broblem ehangach bosibl, a allai ddatgelu rhagor o bethau a allai beri pryder nad ydynt yn amlwg eto. Yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd diffyg tryloywder ar draws y system gyfan. Ymddengys bod rhai tystion yn yn amharod i gael eu cofnodi'n beirniadu'r cynnydd a wnaed, neu'r trefniadau sydd ar waith. Canfu'r archwilydd cyffredinol fod GGGC yn 'or-gadarnhaol' wrth adrodd ar gynnydd. Ddirprwy Lywydd, nid yw eu hagwedd hunanfodlon yn cyd-fynd â chanfyddiad y pwyllgor fod llawer o brosiectau digidol ar ei hôl hi, ac eraill ond ar amser am fod eu hamserlenni wedi'u haddasu i ddangos eu bod ar amser. Nid yw symud y pyst gôl yn datrys y broblem. Mae cyflymder mawr newid technolegol yn golygu y gallai'r oedi parhaus olygu bod y GIG yng Nghymru yn gweithredu ar systemau TG sydd wedi dyddio.
Yn ogystal â chymeradwyo'n gryf yr argymhellion a wnaed eisoes gan yr archwilydd cyffredinol, mae'r adroddiad hwn yn gwneud pump argymhelliad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pump argymhelliad wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig cais y pwyllgor i gael adroddiadau diweddaraf bob chwe mis gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd ar weithredu'r argymhellion digidol yn yr adolygiad seneddol ac adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Mae hyn yn hanfodol os ydym i gyflymu cynnydd a darparu system TG sy'n addas at y diben ac yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion yng Nghymru. Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â Dr Alice Groves yr wythnos diwethaf. Aeth i America gyda grŵp o feddygon a aeth ar ymweliad casglu ffeithiau yn arbennig er mwyn gweld y system wybodeg hon yn America, a thestun syndod i'r meddygon Americanaidd oedd clywed bod y GIG yng Nghymru yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs hen ffasiwn ac mewn rhai achosion, fod llawdriniaethau'n cael eu canslo yn theatrau llawdriniaethau GIG Cymru am nad oedd y ffeiliau ar gyfer y cleifion wedi cyrraedd y theatrau llawdriniaethau. Yr hyn a glywais gan Dr Groves oedd ein bod ymhell ar ei hôl hi yn y maes hwn yng ngwasanaeth y GIG yng Nghymru, ac y dylem ddilyn ychydig a dysgu rhywbeth gan wasanaeth iechyd yr Unol Daleithiau yng Nghymru hefyd. Diolch.
Ar ôl bod yn absennol o'r lle hwn am beth amser, weithiau rwy'n myfyrio ynglŷn â'r hyn sydd wedi newid a'r hyn sydd heb newid ers i mi ddychwelyd. Cofiaf orfod ymdrin â sefyllfa yn fy etholaeth lle na ellid trosglwyddo gwybodaeth yn effeithiol rhwng dau ysbyty yn sir Gaerfyrddin. Canlyniad hynny, mewn gwirionedd, oedd bod y claf, a oedd yn oedolyn ifanc—rhoddwyd ei gofnodion i'w rieni eu gyrru o Lanelli i Gaerfyrddin. Nid oedd yn ddefnydd diogel iawn o ddata neb, ond yr unig ffordd y gallent gael y wybodaeth drwodd mewn pryd. Ddirprwy Lywydd, nid oeddwn yn disgwyl dychwelyd yma ar ôl cymaint o amser i weld mai systemau TG hen ffasiwn o'r fath sydd gennym o hyd, fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos. Mae'r ffaith bod unrhyw un yn dal i ddefnyddio peiriant ffacs—nid wyf yn credu y buaswn yn cofio sut i ddefnyddio peiriant ffacs pe bai galw arnaf i wneud hynny—wedi bod yn dipyn o sioc i mi, ac fel y gŵyr y Dirprwy Lywydd, nid wyf yn un sy'n dychryn yn hawdd.
Nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wnaed eisoes yng nghyfraniad clodwiw Nick Ramsay i'r ddadl. Nid oes angen ailadrodd y problemau; mae'r problemau'n ddigon clir yn yr adroddiad i bawb eu darllen. Ond mae'n werth ystyried nad sôn am ddadl damcaniaethol a wnawn yma, neu rywbeth cwbl dechnegol; mae hyn yn effeithio ar fywydau pobl. Nododd Canolfan Ganser Felindre na chafodd claf driniaeth gemotherapi am nad oedd canlyniadau gwaed ar gael a bu oedi cyn rhoi triniaeth radiotherapi i wyth o gleifion. Cleifion go iawn yw'r rhain; bywydau pobl go iawn yw'r rhain.
Rwyf am ganolbwyntio yn fy nghyfraniad heddiw, Ddirprwy Lywydd, ar faterion yn ymwneud â diwylliant, materion yn ymwneud ag anallu ymddangosiadol i gyfaddef bod yna broblemau difrifol, y duedd i symud y pyst gôl yn hytrach na chyfaddef bod prosiectau ar ei hôl hi, a methiant syml i gydnabod bod yna broblem. Ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay. Mae'r adroddiad yn dweud:
'Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru. Ac eto canfuwyd diwylliant o hunan-sensoriaeth a diarddeliad ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda—yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ei hun yn ogystal â’i bartneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.'
Nawr, credaf fod hwnnw'n gyhuddiad difrifol tu hwnt. Felly, roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y pwyllgor. Ond pan ddarllenais fanylion y derbyniad hwnnw, roedd yn ymddangos i mi unwaith yn rhagor eu bod yn dweud wrthym y byddai popeth yn iawn am fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud yr hyn roedd y pwyllgor wedi dweud bod angen ei wneud ac y byddai popeth yn berffaith iawn. Wel, nid oes ond angen inni wrando eto ar gyfraniad Nick Ramsay heddiw i wybod nad yw hynny'n wir. Ac nid fi'n unig sy'n sôn am y diwylliant hwn. Hoffwn ddyfynnu i'r Gweinidog ei gyd-Aelod Llafur—ei gyd-Weinidog, bellach—Lee Waters, a ddywedodd,
Nid ymwneud â thechnoleg yn unig y mae newid digidol, mae'n ymwneud â newid diwylliant. Mae'n ymwneud â bod yn agored. Mae'n ymwneud â defnyddio data i ddatrys problemau. Yn hytrach na chynllunio gwasanaethau o safbwynt beth y mae bwrdd iechyd neu awdurdod lleol yn credu sydd ei angen ar ddinesydd, mae dull digidol yn golygu cynllunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y defnyddiwr.
Ac rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Nid yw ymateb y Llywodraeth yn tawelu fy meddwl eto, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi sicrwydd i mi, ac yn bwysicach, i aelodau'r pwyllgor a wnaeth y gwaith gwerthfawr hwn y bydd pethau'n newid o ddifrif o hyn ymlaen, oherwydd yn bendant, nid ydynt wedi newid eto.
Nawr, credaf fod yr adroddiad bob chwe mis i'r pwyllgor—ac rwy'n arbennig o falch o weld bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud hynny—. Mae'n anarferol i bwyllgor ofyn am hynny ar sail barhaus, a chredaf fod hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r materion hyn iddynt, ac felly dylent fod yn bwysig i bob un ohonom ninnau hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig ac i'w groesawu'n fawr. Bydd gweld a yw'r Gweinidog yn barod i roi'r gorau i fod yn ymddangosiadol hunanfodlon ac yn barod i ddangos arweiniad cadarn i sicrhau newid a chreu diwylliant a all dderbyn her yn bwysicach byth. Rhaid aros i weld a yw'n gallu, neu a yw'n dewis gwneud hynny.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad a'r ddadl heddiw. Efallai na fyddwn yn cytuno ar bob mater ar ei ddiwedd, ond credaf fod yna uchelgais a rennir ar gyfer ein dyfodol digidol o fewn y byd iechyd a gofal. Wrth gwrs, mae 'Cymru Iachach' yn gosod trawsffurfio technoleg ddigidol a defnydd sylfaenol a hanfodol o dechnoleg wrth wraidd y gwaith o weddnewid iechyd a gofal. Rwy'n glir mai ein huchelgais yw sicrhau buddsoddiad, systemau, sgiliau ac arweinyddiaeth ar gyfer cyflawni hynny.
Mae hon yn agwedd allweddol ar ein bywydau bob dydd, ac wrth gwrs, nid yw iechyd a gofal yn eithriad. Ein her yw dal i fyny â realiti'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. Mae pobl yn disgwyl i wybodaeth am eu gofal fod ar gael lle bynnag a phan fo'i hangen, a dyna y mae ein dull gweithredu cenedlaethol yn ceisio ei ddarparu. Rwy'n cydnabod pryderon ynglŷn â chyflymder y broses o ddarparu'r wybodaeth honno, sefydlogrwydd ein systemau ac arweinyddiaeth. Gwneuthum ymrwymiad clir yn 'Cymru Iachach' i gyflymu newid digidol er budd cymdeithas, ac economi ehangach Cymru yn wir. Bydd buddsoddiad ychwanegol y Llywodraeth o £25 miliwn o gyfalaf a £25 miliwn o refeniw ar gyfer technoleg ddigidol yn y flwyddyn ariannol nesaf yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n helpu i sbarduno'r newid hwnnw. Er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n gyflymach ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau, mae gennym bellach gynllun gwybodeg cenedlaethol tair blynedd a ddatblygwyd drwy ymgysylltiad â'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a swyddogion polisi, a byddwn yn canolbwyntio ar adnewyddu systemau canser, gofal llygaid, patholeg a fferyllfeydd ysbyty. Byddwn yn cynyddu buddsoddiad mewn technoleg i gynorthwyo i gyfarparu ein gweithwyr gofal proffesiynol a darparu gwasanaeth ar-lein.
Mae'n werth cofio, yng Nghymru, ein bod wedi mabwysiadu dull cynyddrannol o ddatblygu systemau TG ar gyfer y GIG. Pan sefydlwyd Hysbysu Gofal Iechyd yn 2003 roedd ganddo gyllideb flynyddol o £30 miliwn. Er cymhariaeth, yn Lloegr, cafodd y rhaglen genedlaethol ar gyfer TG ei thorri'n fyr ar ôl gwario £7.3 biliwn ac adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nad oedd arian a wariwyd ar systemau cofnodi gofal yn darparu gwerth am arian. Yn ogystal, daeth yr Awdurdod Prosiectau Mawr i'r casgliad nad oedd y rhaglen yn Lloegr yn addas ar gyfer darparu'r gwasanaethau TG modern sydd eu hangen ar y GIG.
Rydym eisoes wedi cyflawni amryw o bethau mewn perthynas â chyflawniad digidol. Mae ein systemau cenedlaethol yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ar draws iechyd a gofal gael mynediad at y cofnod diweddaraf o ofal y claf ac i ddelweddau gael eu rhannu ledled Cymru. Mae lefel y gwasanaethau yn gwella, arbedir amser a cheir llai o risg a chost. Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf i ddefnyddio gwasanaeth canlyniadau prawf cenedlaethol, sy'n golygu bod canlyniadau profion ar gael lle bynnag a phan fo'u hangen ar draws y ffiniau sefydliadol. Gwelais o lygaid y ffynnon, fel y mae'r Aelodau hefyd wedi'i weld, gobeithio, y gwahaniaeth y mae Dewis Fferyllfa yn ei wneud i gleifion, a bellach gallant gael meddyginiaethau ar bresgripsiwn gan fferyllwyr mewn argyfwng heb fynd at feddyg teulu am fod gan fferyllfeydd fynediad at wybodaeth y claf. Mae'r system honno ar waith mewn mwy na 95 y cant o fferyllfeydd cymwys erbyn hyn, ac am unwaith mae'n brosiect TG sy'n gweithredu o fewn y gyllideb ac yn gynt na'r disgwyl.
Mae meddygon teulu yng Nghymru yn gallu defnyddio un o ddwy system TG wedi'u rheoli'n ganolog i ddarparu popeth o gymorth bwrdd gwaith i reoli gwasanaethau argraffu, gyda'r gobaith o ganiatáu i feddygon teulu ganolbwyntio mwy o'u hamser ar drin pobl yn eu gofal. Mae cleifion yn gallu gwneud mwy a mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol i helpu eu gofal a'u triniaeth eu hunain, yn cynnwys trefnu apwyntiadau ar-lein, archebu presgripsiynau amlroddadwy a chael gafael ar ddata o'u cofnodion iechyd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud. Mae cyflwyno negeseuon testun i atgoffa am apwyntiadau yn un enghraifft sydd wedi helpu i leihau nifer yr apwyntiadau a gollir.
Mae ein dull o weithredu systemau digidol yn cefnogi system lle caiff iechyd a gofal eu hintegreiddio a rhaid iddynt roi'r dinesydd yn y canol. Felly, mae system wybodaeth gofal cymunedol Cymru eisoes wedi cael ei rhoi ar waith mewn 13 o sefydliadau eisoes ac rwy'n glir fy mod am i ragor ddod yn rhan ohoni ar sail gynyddol hyd nes y cawn y wlad gyfan wedi'i chynnwys, i ddarparu cofnod a rennir am y claf, yr unigolyn, i gydweithwyr ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn gwella diogelwch ac ansawdd gofal. Dyma'r tro cyntaf y cyflawnwyd rhaglen o'r fath ar raddfa genedlaethol yn unman.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog. Rwy'n meddwl tybed a allwch roi i ni heddiw—. Mae'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud yn gadarnhaol iawn, a byddem oll yn croesawu hynny, rwy'n siŵr, ond a allwch roi'r ffigurau diweddaraf inni o ran methiannau yn system bresennol y GIG? Os nad ydych yn gallu darparu'r ffigurau hynny heddiw, a fyddech yn barod i ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â hynny? Oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol wrth gwrs—ni fydd y datblygiadau cadarnhaol a ddisgrifiwch heddiw yn gweithio os yw'r systemau'n dal i fethu.
Fe ddof at fethiannau yn nes ymlaen yn fy sylwadau. Yng Nghymru, rydym yn datblygu cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau sy'n cydgrynhoi gwybodaeth ar draws y sector iechyd, y sector gofal a'r sector gwirfoddol i'w gwneud yn haws i ddinasyddion ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau sy'n berthnasol iddynt hwy. Fel yr amlinellir yn fy ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae adolygiad o bensaernïaeth ddigidol y GIG yn mynd rhagddo, a bydd yn llywio cynlluniau ar gyfer sut y datblygir y bensaernïaeth ar gyfer y dyfodol i roi sylw i ddatblygiadau yn y farchnad ac arferion gorau o fannau eraill. Rydym am barhau i fod yn wasanaeth agored sy'n dysgu. Byddaf yn gweithredu ar adroddiad yr adolygiad y disgwylir iddo ddod i law cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Wrth i ni ddod yn fwy dibynnol ar ein systemau, mewn amgylchedd cymhleth, mae'n bwysicach fyth fod y systemau'n ddiogel a chadarn, a chafwyd nifer o fethiannau y llynedd. Mae GGGC bellach wedi bwrw iddi i gynnal a diweddaru ein systemau, ac rwy'n falch o adrodd na fu unrhyw ddigwyddiadau mawr gyda systemau TG ers dechrau mis Medi y llynedd. Hefyd rwyf wedi cynyddu buddsoddiad mewn seiberddiogelwch ac wedi sefydlu prosesau newydd ar gyfer pan fydd methiant o ran seiberddiogelwch neu fethiant system.
Ond bydd cyflawni'r newid rydym ei eisiau yn galw am y lefel gywir o sgiliau digidol ac arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n golygu edrych ar draws y system gyfan, nid canolbwyntio ar un sefydliad yn unig o'i mewn. Fel yr addewais yn fy ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae'r adolygiad o lywodraethu gwybodeg yn y GIG bellach wedi'i gwblhau a'i adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Llywodraeth.
Ni fydd atebion pwyntiau syml yn gweithio. Mae arnom angen camau gweithredu ychydig mwy radical, lluosog a chydgysylltiedig ar draws pob rhan o'r system. Ceir cefnogaeth eang i newid a chydnabyddiaeth glir mai dyma'r cyfle i greu system fwy cadarn ac ymatebol sy'n wirioneddol addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adolygiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer y tymor byr a'r tymor canolig o dan bedair thema allweddol: sefydlu prif swyddog digidol ar gyfer iechyd i gryfhau arweinyddiaeth ddigidol genedlaethol; creu awdurdod safonau newydd a mandadu safonau gwybodeg; sefydlu tîm datblygu digidol newydd i gefnogi arloesedd ac i gyflymu'r broses o gyflawni, gan bennu blaenoriaethau yn genedlaethol; a dwyn ynghyd y gwasanaethau gwybodeg rhanbarthol a chenedlaethol gwasgaredig presennol mewn trefniant cydwasanaeth ar gyfer seilwaith a darparu data.
Wrth gwrs, byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad maes o law. Yn y cyfamser, gofynnais i fy swyddogion weithio gyda'r gwasanaeth iechyd i ystyried yr argymhellion. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn toriad y Pasg ar ein hymateb i argymhellion yr adolygiad. Wrth gwrs, nid sgiliau digidol a gallu ein gweithlu yn unig sy'n bwysig. Rhaid inni fod yn ymwybodol o'r effaith ar ein dinasyddion, yn enwedig ar y rhai a allai ei chael hi'n anodd manteisio ar wasanaethau newydd. Felly rwyf wedi ymrwymo £3 miliwn ar gyfer elfen sy'n canolbwyntio ar iechyd i'n rhaglen cynhwysiant digidol dros y tair blynedd nesaf i adeiladu rhwydwaith o hyrwyddwyr yn y gwasanaeth ac yn y gymuned. Byddwn yn parhau i edrych y tu hwnt i ffiniau iechyd i sicrhau manteision i'n dinasyddion. Mae GGGC yn gweithio gyda chydweithwyr mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus, ac mae'r ecosystem iechyd digidol yng Nghymru yn meithrin cydweithio rhwng y gwasanaeth, y byd academaidd a diwydiant i yrru arloesedd. Heb golli golwg ar yr hyn a gyflawnwyd, gwn fod llawer mwy i'w wneud. Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni Cymru iachach, gyda gwell gallu digidol a mynediad yn ganolog iddi.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Efallai ei bod ychydig yn fyrrach na rhai o'r dadleuon a gawn yn y Siambr hon, ond credaf fod pob un o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelodau wedi'u gwneud yn dda ac i'w croesawu.
Cyffyrddodd yr holl Aelodau ar rai themâu a oedd yn codi eu pen dro ar ôl tro, gan ddechrau gyda Mohammad Asghar, a soniodd am dryloywder a'r angen i fod yn agored. Rwy'n credu bod angen inni wybod maint y broblem sy'n ein hwynebu, ac i dderbyn hynny fel y gallwn ganfod atebion—mae hynny'n allweddol. A dyna y mae adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yma i'w gwneud: taflu goleuni ar y meysydd lle mae pethau'n methu—gan barchu'r ffaith bod yna feysydd eraill lle mae cynnydd a llwyddiant yn digwydd—ac mae angen rhoi'r meysydd sy'n methu, fel y maes hwn, ar y trywydd cywir.
Mae Helen Mary Jones yn ein hatgoffa nad yw hi'n un hawdd ei dychryn, ond rydych yn iawn i gael eich dychryn neu eich synnu gan yr adroddiad hwn. Mae'n adroddiad diflewyn ar dafod—nid wyf yn gwadu hynny. Mae'n adroddiad deifiol. Nid yw'n dal yn ôl, oherwydd mae'n adrodd ar y dystiolaeth a gawsom, a'r pryderon dwfn mewn rhai sectorau am y problemau sy'n ein hwynebu gyda gwybodeg yn y GIG. Fel y dywedoch chi, Helen Mary, nid dadl ddamcaniaethol yw hon. Mae'n digwydd go iawn, wrth i mi siarad yma yn awr, wrth i chi siarad yn gynharach—allan yno yng Nghymru, mae'n effeithio ar bobl go iawn, mae'n effeithio ar staff ac yn effeithio ar gleifion. Efallai 50 mlynedd yn ôl pan oedd cyfrifiaduron, wel, yn sicr yn eu babandod ac mae'n fwy na phosibl nad oedd gwybodeg wedi'i ddychmygu hyd yn oed, yn amlwg nid oedd y mathau hyn o bethau'n berthnasol. Ond maent yn berthnasol bellach. Maent yn berthnasol i feysydd eraill o fywyd ac maent yn gynyddol berthnasol i'r gwasanaeth iechyd.
Rwy'n falch, Helen Mary, eich bod wedi dyfynnu Lee Waters—Lee Waters, aelod blaenorol ac aelod gwerthfawr o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Gwn fod y rhain yn faterion—rydych yn gwisgo het wahanol bellach, wrth gwrs, felly nid ydych yn rhan o'r ddadl hon heddiw, ond fe wnaethoch lawer o waith gyda gweddill y pwyllgor, ac mae hynny i'w groesawu yn ogystal. Mae gweddnewidiad digidol, pan ddyfynnoch chi Lee, yn ymwneud â bod yn agored. Mae hynny'n adleisio sylwadau Mohammad Asghar yn gynharach hefyd. Dyna rydym yn ceisio ei gyflawni yma.
Gan droi at ymateb y Gweinidog—ac rwy'n credu ei fod yn ymateb llawn bwriadau da, fel y dywedodd Helen Mary, mae'n ymateb a oedd yn cynnwys llawer sydd i'w groesawu. Diolch i chi am yr ysbryd y gwnaethoch ei gyflwyno ynddo, Weinidog, a diolch i chi am y dystiolaeth a roesoch i'r pwyllgor. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion. Rwy'n falch yn fwy na dim oherwydd mae angen iddynt gael eu derbyn. Rydych yn gywir: mae pawb ohonom am weld gwelliant yn y maes hwn.
Y broblem sydd gennym—un o'r pethau pwysicaf oll—yw cyflymder newid. Ni all fod yn iawn fod Aelodau Cynulliad a oedd yma yn nyddiau cynnar datganoli, pan oeddem yn trafod yr un problemau'n union, yn ôl yma bellach a phopeth fel yr oedd. Ni all hynny fod yn iawn. Felly, mae cyflymder yn broblem. Do, fe fu gwelliannau, do, mae pethau wedi symud ymlaen mewn rhai meysydd, ond mae angen iddo ddigwydd yn gyflymach. Mae angen inni gael capasiti. Mae angen inni gael capasiti o fewn Llywodraeth Cymru, o fewn system y GIG—y capasiti a'r sgiliau sydd eu hangen i unioni'r sefyllfa. Nid oedd y pwyllgor yn argyhoeddedig fod y capasiti hwnnw yno ar hyn o bryd. Roedd tystiolaeth o allu yn y system—cawsom drafodaeth hir am y gwahaniaeth rhwng gallu a chapasiti—ond roedd pryderon ynghylch maint y capasiti hwnnw.
Methiannau—soniodd Aelodau am nifer y methiannau. Rwy'n falch o glywed na fu unrhyw fethiant ers mis Medi diwethaf oherwydd, a dweud y gwir, gyda maint rhai o'r methiannau a oedd yn digwydd, roeddent yn llyffethair mawr ar y system ac yn arafu cynnydd. Rhaid datrys hynny fel y gallwn symud ymlaen.
Mae yna gefnogaeth i newid—o fewn Llywodraeth Cymru, os caf ddweud, o fewn y Siambr hon ei hun—wrth gwrs bod pawb yn cefnogi newid. Mae pawb ohonom am weld hyn yn cael ei ddatrys. Mae'n mynd i olygu arian, ond mae hefyd yn mynd i olygu newid meddylfryd—neu efallai fod datblygu meddylfryd yn ffordd well o'i roi mae'n debyg—oherwydd heb amheuaeth mae yna awydd ymysg yr holl randdeiliaid y cawsom dystiolaeth ganddynt i weld y sefyllfa hon yn gwella. Ond nid ydym yn agos at fod yno eto. Rydym ar y ffordd, ond rydym am gyrraedd lle rydym yn mynd yn gyflymach nag y gwnawn ar hyn o bryd. Gadewch inni roi'r system wybodeg y mae'n ei haeddu i'r GIG. Gadewch inni roi'r system y maent yn ei haeddu a'i hangen i bobl Cymru, a chleifion a staff. Rydym wedi aros yn hir. Rwy'n erfyn ar y Gweinidog i ddefnyddio eich ymrwymiad i hyn i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant yn y system wybodeg fel y mae pawb ohonom yn dymuno ei weld.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.