Amseroedd Aros y Gwasanaeth Iechyd ar draws Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 5 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, er gwaethaf galw cynyddol, bu gostyngiad dros y flwyddyn ddiwethaf o bron i 30 y cant i nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth yn Betsi Cadwaladr. Mae angen rhagor o waith, fodd bynnag, ac mae'n cael ei wneud i sicrhau bod yr holl amseroedd aros o fewn targedau Llywodraeth Cymru.