1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2019.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y gwasanaeth iechyd ar draws gogledd Cymru? OAQ53374
Llywydd, er gwaethaf galw cynyddol, bu gostyngiad dros y flwyddyn ddiwethaf o bron i 30 y cant i nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth yn Betsi Cadwaladr. Mae angen rhagor o waith, fodd bynnag, ac mae'n cael ei wneud i sicrhau bod yr holl amseroedd aros o fewn targedau Llywodraeth Cymru.
Diolch, Prif Weinidog, ac rwyf i wir yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth bod angen gwneud rhagor o waith, ond, gadewch i ni fod yn onest, gweithredwyd ymyraethau uniongyrchol gan eich Llywodraeth Cymru chi ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin 2015, tra'n aros am nifer o welliannau mawr a oedd yn ofynnol. Mewn gwirionedd, mae cleifion ar draws y gogledd yn dal i ddioddef digalondid amseroedd aros cynyddol. Rydym ni newydd weld y ganran waethaf erioed o gleifion a welwyd o fewn yr amser targed o bedair awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys; clust, trwyn a llwnc—cynnydd o bron i 9 pwynt i ganran y llwybrau cleifion sy'n aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth, ac mae'r un peth yn wir o ran rheoli poen. Ac mae'r rhai sy'n aros am fwy na 24 wythnos am sigmoidosgopi hyblyg wedi cynyddu 4,900 y cant mewn termau canrannol.
Nawr, mae gen i nifer o achosion lle mae etholwyr yn aros yn llawer rhy hir am driniaeth yn anffodus, fel un wraig oedrannus a gwympodd ym mis Mehefin y llynedd, gan dorri ei hysgwydd yn yfflon, ac a hysbyswyd erbyn hyn y bydd hi'n debygol o fod yn aros am o leiaf naw mis arall mewn poen arteithiol. Prif Weinidog, mae problemau o ran amseroedd aros ar draws y bwrdd iechyd hwn ar gyfer gwahanol driniaethau a gwasanaethau. Nawr, mae'n amlwg i mi, ac i Aelodau eraill yn y Siambr hon rwy'n credu, ac, yn wir, i'n cleifion yn y gogledd, bod eich Gweinidog iechyd eich hun, ar ôl tair blynedd a hanner, yn parhau i fethu o ran swyddogaethau a gweithrediad y bwrdd iechyd hwn. Fel y Prif Weinidog, sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw—[Torri ar draws.]
Rwy'n meddwl bod angen i chi ddod i'r cwestiwn.
Iawn. Fel y Prif Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb am bob portffolio yn y pen draw—[Torri ar draws.]
Pan fy mod i'n gofyn i chi ddod at y cwestiwn, nid wyf i'n bwriadu i chi barhau i ddarllen yr hyn sydd gennych chi o'ch blaen. A wnewch chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Iawn. Fel y Prif Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw, onid yw hi'n bryd erbyn hyn i chi ddechrau cymryd mwy o afael ar yr hyn sy'n digwydd yn y bwrdd iechyd hwn, ac efallai ystyried ffordd well o reoli'r ymyraethau uniongyrchol yn y bwrdd iechyd hwn?
Wel, Llywydd, rwy'n parhau i gymryd diddordeb uniongyrchol ym mhopeth sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yn y gogledd. Ar yr adeg y gwnaed Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, roedd pryderon gwirioneddol ynghylch ei wasanaethau mamolaeth. Mae'r rheini wedi gwella ac ni ystyrir mwyach eu bod angen bod mewn mesurau arbennig. Roedd pryderon gwirioneddol ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau, sydd wedi gwella'n sylweddol. Roedd pryderon ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal, ac roedd hynny wedi gostwng gan 22 y cant ym mis Tachwedd a chan 24 y cant ym mis Rhagfyr. Mae llawer o bethau sy'n gwella yn Betsi Cadwaladr, ond rydym ni'n cydnabod y ceir pobl sy'n aros yn rhy hir am driniaeth, er gwaethaf y ffaith bod amseroedd aros o 36 wythnos wedi gostwng, bod amseroedd aros o 26 wythnos wedi gostwng, ac mai 8.4 wythnos o'r adeg y caiff rhywun ei atgyfeirio am driniaeth i'r adeg pan fydd y driniaeth honno wedi ei chyflawni yw'r amser aros canolrifol ar gyfer triniaeth yn y bwrdd iechyd.
Fel rhan o'r ymateb i bwysau'r gaeaf, mae'r Groes Goch wedi bod yn mynd mewn i adrannau brys rhai o ysbytai Cymru. Maen nhw wedi bod yn gymorth mawr mewn dau o'r tri phrif ysbyty yn y gogledd, ac wedi cynorthwyo bron 5,500 o gleifion, sy'n cynrychioli mwy na hanner yr holl gleifion sydd wedi cael eu cynorthwyo yng Nghymru, yn Wrecsam Maelor ac yn Ysbyty Glan Clwyd. Nawr, efallai eich bod chi'n dweud bod y darlun cyffredinol yn gwella, ond mae'n rhaid i fi siarad o brofiad fan hyn, Brif Weinidog. Mi ges i fy nghyfeirio i'r uned frys yn Wrecsam Maelor ddydd Llun diwethaf. Roeddwn i'n cyrraedd am 5 o'r gloch y prynhawn a doeddwn i ddim yn cael fy ngweld tan 5 o'r gloch y bore—12 awr fues i'n aros yn yr uned frys. [Torri ar draws.] Mae e'n digwydd yn gyson, dwi'n gwybod, ac mae'r darlun yn cael ei bortreadu fan hyn bod pethau'n gwella. Efallai eu bod nhw yn gyffredinol, ond yr ateb dwi'n ei roi i chi yw bod yna brofiadau cwbl annerbyniol mae pobl yn dal yn gorfod eu goddef.
Rŷn ni yn cydnabod y gwaith mae rhywun fel y Groes Goch yn ei wneud, ond mae'r gwasanaeth penodol yna yn dod i ben fis nesaf. Felly, gaf i ofyn i chi ydych chi'n meddwl y dylai fod y math yna o wasanaeth yn parhau a'n bod ni'n dibynnu ar y Groes Goch yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a pha effaith rŷch chi'n credu bydd dod â'r gwasanaeth yna i ben yn ei chael ar y gwasanaethau a fydd yn cael eu gadael ar ôl?
Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am beth ddywedodd e am waith y Groes Goch. Ac mae beth mae'r Groes Goch yn ei wneud yn y gogledd yn rhan o dri pheth rŷn ni'n ei wneud dros y gaeaf—pethau newydd i drio helpu'r system, a gwneud pethau mewn ffyrdd newydd. Ac mae'r gwaith y mae'r Groes Goch yn ei wneud, ond hefyd beth rŷn ni'n ei wneud gyda Care and Repair a chael pobl newydd yn yr adrannau brys i helpu, mae hwnna'n rhywbeth lle rŷn ni'n mynd i dynnu gwersi mas o'r profiadau yn y gogledd a thrio gweld a ydyn ni'n gallu gwneud hwnna ledled Cymru. Dwi'n cydnabod, fel y dywedais i wrth Janet Finch-Saunders, fod rhai pobl yn aros yn rhy hir yn yr adrannau brys dros y gaeaf. Maen nhw wedi dod o dan bwysau wrth gwrs, ac mae lot o bethau rŷn ni eisiau eu gwneud, ac yn eu gwneud, gyda'r bwrdd i wella'r sefyllfa yn y gogledd.