Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Byddwn yn ystyried yr achos dros ddatganoli gweinyddu agweddau ar y system fudd-daliadau i Gymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn cymryd i ystyriaeth gwaith pwyllgorau'r Cynulliad ar y mater hwn a phrofiad mewn mannau eraill. Byddai'n rhaid i'r cyllid angenrheidiol fod ar gael ar y cyd ag unrhyw drosglwyddo swyddogaethau.