1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2019.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru? OAQ53378
Diolchaf i Lynne Neagle. Mae ein hasesiad yn parhau i ddangos y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychinebus i'r sector modurol. Dylai Llywodraeth y DU gymryd posibilrwydd o'r fath oddi ar y bwrdd a dylid ceisio estyniad nawr i'r amserlen erthygl 50.
Diolch, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r wers o'r penwythnos, a'r newyddion drwg iawn gan Nissan, yw er mai dim cytundeb fyddai'r canlyniad gwaethaf un i'r diwydiant modurol, y gwir amdani yw y bydd unrhyw Brexit yn golygu y bydd dadleuon ac ansicrwydd yn parhau am flynyddoedd, a bod bob dydd o ansicrwydd yn ddiwrnod pan fo buddsoddwyr yn aros i ffwrdd ac mae swyddi o dan fygythiad, yn enwedig mewn etholaethau fel fy un i? Ac a fyddai'r Prif Weinidog hefyd yn cytuno, pa bynnag gytundeb Brexit a wneir, mai dim ond Brexit dall y bydd beth bynnag, gan mai dim ond rhestr o ddymuniadau gwleidyddol yw'r datganiad gwleidyddol sy'n ategu'r cytundeb ymadael, sy'n cyfateb i bethau cysurus fel bod yn fam a theisen afal, a pha un a fydd yn gytundeb Mrs May, neu Norwy a mwy, neu'n unrhyw fath arall o Brexit, ei bod yn debygol y bydd y trafodaethau a'r ansicrwydd niweidiol yn parhau am flynyddoedd i ddod?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn hollol iawn mai ansicrwydd yw gelyn buddsoddiad ac mae honno'n neges y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a chyrff eraill sy'n arwain eu diwydiannau wedi ei chyfleu ers misoedd ar fisoedd ar fisoedd. Iddyn nhw, nid yw Brexit yn rhywbeth a fydd yn digwydd ar ôl 29 Mawrth, mae Brexit yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer erbyn hyn, ac mae penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn busnesau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, lle mae pethau a fyddai wedi cael eu gwneud ac a fyddai wedi bod ar waith a byddai ffyniant wedi cael ei gefnogi—nid yw'r pethau hynny yn cael eu gwneud oherwydd yr ansicrwydd a'r ffordd y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi llwyddo i wneud smonach o Brexit hyd at y llinell olaf un. Ac, wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn—bydd hi'n cofio'r ddadl a gawsom ni yma ar lawr y Cynulliad pan wnaeth Mrs May gyhoeddi ei chytundeb gyntaf. Mae pethau sydd yn anghywir gyda'r cytundeb ymadael, a chyfeiriwyd at y rheini gennym ni yn y fan yma. Ond mae'r pethau sy'n anghywir gyda'r datganiad gwleidyddol yn fwy arwyddocaol fyth, ac mae disgwyl i'r Cynulliad hwn neu unrhyw un arall i gytuno i'r ddogfen simsan honno heb unrhyw fath o sicrwydd ynghylch y math o ddyfodol sydd ei angen arnom ni yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd—does dim rhyfedd ei bod hi wedi dioddef y trechiad a wnaeth, a does dim rhyfedd nad oedd y Cynulliad hwn yn barod i'w gefnogi ychwaith.
Cwestiwn 8 yn olaf, John Griffiths.