Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau'r gwerth gorau o gaffael yn cynnwys sicrhau cymaint â phosibl o wariant yn economi Cymru, sicrhau manteision cymunedol ehangach o'r gwariant hwnnw, a sicrhau bod gwaith teg a safonau cyflogaeth moesol yn cael eu cynnal pan fydd arian yn cael ei wario ar ran y cyhoedd yng Nghymru.