1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2019.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau'r gwerth gorau am arian ar gyfer caffael cyhoeddus? OAQ53333
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau'r gwerth gorau o gaffael yn cynnwys sicrhau cymaint â phosibl o wariant yn economi Cymru, sicrhau manteision cymunedol ehangach o'r gwariant hwnnw, a sicrhau bod gwaith teg a safonau cyflogaeth moesol yn cael eu cynnal pan fydd arian yn cael ei wario ar ran y cyhoedd yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad gyda 3SC, menter gymdeithasol a sefydlwyd i wneud ceisiadau am gontractau cyhoeddus ac eraill, gan harneisio grym y trydydd sector i ddarparu'r contractau hynny drwy sefydliadau a fyddai ar eu colled fel arall. Yn y digwyddiad, lansiwyd eu papur safbwynt, 'The Crisis in Public Sector Contracting and How to Cure It: A Wales Perspective', ganddyn nhw gan dynnu sylw at rai o'r heriau y mae'r trydydd sector yn eu hwynebu o ran caffael sector cyhoeddus yng Nghymru a rhai syniadau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain. Er bod y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn tyfu, dywedasant bod y sector yn dal i fod yn fach a heb ei fodloni o ran cyrraedd ei botensial llawn, a bod presenoldeb monopoli mewnol mewn llawer o awdurdodau lleol yr un mor gyfyngol o ran arloesi ac amrywiaeth â phe byddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar gontract allanol gan gwmni sector preifat mawr. Sut, felly, y gwnewch chi ymgysylltu â'r adroddiad hwn i ystyried ei gynigion ar gyfer mwy o sensitifrwydd o ran sut y caiff gwasanaethau eu caffael ac ymrwymiad pendant i'r trydydd sector a sefydliadau llai i sicrhau cyfran resymol o'r bastai caffael cyhoeddus? Yn olaf, lle maen nhw'n dweud bod problemau fel aildroseddu, tai, anabledd a chyflogaeth yn gofyn am gydweithrediad, amynedd a meddyliau clir yn ogystal ag arian, ond arian sy'n cael ei wario nid yn unig gyda golwg ar gael yr ateb rhataf, ond yr ateb gorau—mewn geiriau eraill, partneriaethau â phwrpas iddynt—a wnewch chi ystyried yr adroddiad hwn?
Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â'r adroddiad, ond byddwn yn sicr yn awyddus i'w astudio, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu fy sylw ato. Mae'n iawn, wrth gwrs: rydym ni'n gwybod y gall ennill contractau fod yn anodd i sefydliadau bach. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i ddod o hyd i ffyrdd y gall sefydliadau bach, pa un a ydyn nhw'n fentrau bach a chanolig eu maint neu'n sefydliadau trydydd sector, ddod at ei gilydd i gydweithio ar geisiadau, i greu consortia, i ffurfio mentrau ar y cyd, ac yn y modd hwnnw gwella eu cyfleoedd o gael gwaith drwy'r broses caffael cyhoeddus. Bydd yr Aelod yn cael ei galonogi o glywed, rwy'n siŵr, bod 58 y cant o fusnesau a ddaeth drwy wefan GwerthwchiGymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi mynd at BBaChau yng Nghymru, ac mae honno'n ganran sylweddol uwch na, gadewch i ni ddweud, dair blynedd yn ôl. Ond os oes syniadau diddorol a newydd yn yr adroddiad, yna byddwn yn awyddus iawn i'w astudio, ac rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu fy sylw ato.
Prif Weinidog, roedd y cwestiwn yn canolbwyntio ar werth am arian, ond un o'r meysydd pwysig eraill yw gwerth i economi Cymru. Fel y nodwyd gennych, mae hefyd yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a busnesau annibynnol bach. Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi codi hyn yn aml gyda chi. Enghraifft hefyd allai fod sicrhau bod dur Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau seilwaith ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. A wnewch chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn hynny o beth, ac a allwch chi roi datganiad ar gynnydd i ni o ran sut mae'r broses gaffael yn newid i sicrhau bod cymaint o fusnesau Cymru a chynhyrchion yng Nghymru yn cael eu defnyddio wrth gaffael yng Nghymru?
Diolchaf i David Rees am hynna. Fel y bydd yn gwybod, yn dilyn yr anawsterau yn y diwydiant dur yn ôl yn 2016, lluniwyd nodyn caffael penodol ar gyfer prynwyr cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau bod cymaint â phosibl o ddur Cymru yn mynd i'r adeiladau a'r buddsoddiadau seilwaith eraill a wneir ar ran y cyhoedd yma yng Nghymru. Gwnaed cyfres gyfan o bethau, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau nid yn unig y gwerth gorau am arian ond y gwerth gorau yn yr ystyr ehangach hwnnw.
Mae'r cynllun manteision cymunedol yng Nghymru yn cwmpasu mwy na 500 o gynlluniau erbyn hyn, ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran gwneud yn siŵr bod swyddi lleol, prentisiaethau, hyfforddiant a gwariant ar y gyfres ehangach honno o fuddiannau cymunedol yn deillio o'r ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario. Nodwyd ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesol yn y gadwyn gyflenwi drwy ddigwyddiad ym mis Ionawr yr oedd Ken Skates yn bresennol ynddo i ddathlu'r ffaith fod 150 o sefydliadau yng Nghymru wedi ymrwymo i'r cod hwnnw, sy'n enghraifft ymarferol wirioneddol o'r synnwyr ehangach hwnnw o sut y gellir dod o hyd i'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth ddweud gwerth gorau yn economi Cymru.