Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 5 Chwefror 2019.
Prif Weinidog, roedd y cwestiwn yn canolbwyntio ar werth am arian, ond un o'r meysydd pwysig eraill yw gwerth i economi Cymru. Fel y nodwyd gennych, mae hefyd yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a busnesau annibynnol bach. Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi codi hyn yn aml gyda chi. Enghraifft hefyd allai fod sicrhau bod dur Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau seilwaith ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. A wnewch chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn hynny o beth, ac a allwch chi roi datganiad ar gynnydd i ni o ran sut mae'r broses gaffael yn newid i sicrhau bod cymaint o fusnesau Cymru a chynhyrchion yng Nghymru yn cael eu defnyddio wrth gaffael yng Nghymru?