– Senedd Cymru am 2:20 pm ar 5 Chwefror 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad a'r cyhoeddiad—Rebecca Evans.
Mae dau ddatganiad ychwanegol wedi eu hychwanegu at agenda heddiw, un ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd a'r wybodaeth ddiweddaraf ar y model buddsoddi cydfuddiannol yng Nghymru. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ystadegau amseroedd aros diweddaraf ar gyfer cleifion damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yng Nghymru? Y mis diwethaf, gwelwyd y gyfradd isaf a gofnodwyd erioed ar gyfer mis Rhagfyr, gyda 77.8 y cant o gleifion yn unig yn cael eu gweld o fewn yr amser aros targed o bedair awr. Arhosodd dros 18,000 o gleifion am fwy na phedair awr, gyda 4,000 eisoes yn aros dros 12 awr cyn iddyn nhw gael eu gweld gan weithwyr iechyd proffesiynol. O gofio mai yn 2008 y pennwyd yr amser aros targed, ac nad yw erioed wedi ei fodloni, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch y rhesymau pam mai amseroedd aros damweiniau ac achosion brys y mis diwethaf oedd y gwaethaf ar gofnod ers mis Rhagfyr llawer o flynyddoedd? Diolch.
Diolch am hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog iechyd yn cyflwyno datganiad yr wythnos nesaf ar bwysau'r gaeaf ar ofal heb ei drefnu.
Hoffwn i gael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar eich polisi o ran cartrefi gofal a diogelu a chadw cartrefi gofal cyhoeddus yn y sector cyhoeddus. Rwyf yn codi’r mater hwn oherwydd bod cyngor Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad Llafur, yn bwriadu trefnu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat ar gontract allanol yn sgil rhaglen foderneiddio honedig ar gyfer gwasanaethau i'r henoed. Mae hyn yn golygu bod cartrefi preswyl ym Mhentre, Treorci, y Gelli, Trealaw, y Porth a Glynrhedynog, ynghyd â rhai gwasanaethau gofal dydd, yn cael eu hadolygu, ac felly, dan fygythiad. Mae hyn wedi achosi llawer iawn o bryder dealladwy i’r bobl leol yr wyf wedi siarad â nhw. Felly, a oes modd ichi roi rhywfaint o eglurder ar y mater hwn drwy gyflwyno datganiad gan y Llywodraeth ar ei strategaeth gofal?
Rwyf newydd gwrdd ag Imam Sis, aelod Cwrdaidd o Blaid Cymru, sydd wedi bod ar streic newyn ers 16 Rhagfyr mewn protest oherwydd gorthrwm Twrci ar ei phobl. Yn ganolog i'r ymgyrch hon, ceir yr ymgais i ryddhau arweinydd Plaid Gweithwyr Kurdistan, Abdullah Öcalan, o garchar yn Nhwrci. Carcharwyd ef ers 1999, dan yr amodau mwyaf ofnadwy. Yn gywilyddus, mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu hyn. A wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru wrth ddangos undod â dinasyddion Cwrdaidd Cymru sy'n protestio yn erbyn gorthrwm ac yn sefyll dros ryddid?
Cefais fy ysgwyd wrth glywed am achos y teithiwr o Gaerdydd, Gilbert Watt, a gafodd, gyda chymorth yr heddlu, ei daflu allan oddi ar fws National Express yr oedd ganddo docyn dilys ar ei gyfer. Rastaffariad du yw Mr Watt, a oedd yn ymweld â'i bartner o Lundain, ac roedd wedi bod ar y daith hon gan ddefnyddio e-docyn nifer o weithiau o’r blaen heb unrhyw broblemau. Mae'r ffaith bod National Express bellach wedi ymddiheuro ac wedi cynnig i’w ad-dalu, ynghyd â 10 taith am ddim, yn arwyddocaol iawn i mi. A ydych chi, fel fi, yn amau bod hiliaeth y tu ôl i’r digwyddiad hwn? Ac a wnewch chi ddatganiad cryf yn erbyn gweithrediadau o'r fath, sy’n amlwg iawn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl?
Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi’n ymuno â mi i gydnabod gwaith Elfed Wyn Jones, Osian Hedd Harris, Aron Tudur Dafydd, Grisial Hedd Roberts, Iestyn Phillips a Caleb Siôn Davies ar ôl iddyn nhw gymryd camau cyflym a chadarnhaol i adfer y graffiti ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud? Mae hwn yn arwyddnod o bwys cenedlaethol. Felly, fel llawer o bobl ledled Cymru, roeddwn i wedi dychryn pan glywais ei fod wedi cael ei ddifwyno. Gweithiodd y bobl ifanc hyn drwy'r nos, nos Sul, i unioni'r camwedd hwn, ac maen nhw wedi dangos gwybodaeth o’u hanes eu hunain ond hefyd wedi dangos eu bod nhw’n benderfynol o gyflawni newid cadarnhaol. Mae enghreifftiau fel hyn yn rhoi gobaith mawr i mi ar gyfer dyfodol y wlad hon, felly a wnewch chi ymuno â mi wrth longyfarch y bobl ifanc hyn am y camau a gymerwyd ganddyn nhw yn ystod y penwythnos?
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn. Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i longyfarch y bobl ifanc hynny am y gweithredu dros y penwythnos yn wyneb yr hyn yr wyf yn ei gredu oedd yn weithred arbennig o ddisynnwyr a dideimlad ynglŷn â’r gofeb ‘Cofiwch Dryweryn’.
Byddwn yn sicr yn dweud bod Cadw, rwy'n credu, wedi edrych yn y gorffennol i weld a ddylai fod yn strwythur rhestredig ai peidio, a gwn na fyddai bod yn strwythur rhestredig hyd yn oed yn atal y math hwn o beth rhag digwydd eto. Ond gwn y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb ynghylch yr hyn y gallem ei wneud i warchod y safle yn well yn y dyfodol.
Ar y mater a godwyd gennych am ddinasyddion Cwrdaidd yng Nghymru, gallaf gadarnhau bod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol wedi codi’r mater hwn gyda llysgennad Twrci yr wythnos diwethaf, ac efallai y bydd hi’n gallu ysgrifennu atoch gyda mwy o gadarnhad ynghylch y sgyrsiau hynny a gafodd hi.
Ar y mater gwahaniaethu, yn amlwg, byddem ni’n gwrthwynebu gwahaniaethu lle bynnag y bo hynny'n digwydd. Ac, yn sicr, byddai gan sefydliadau a busnesau gyfrifoldeb i sicrhau bod eu staff yn ymddwyn mewn ffordd sy’n cadw at lythyren ac ysbryd y ddeddfwriaeth gydraddoldeb i raddau helaeth bob amser, a byddwn yn pryderu o glywed am unrhyw enghreifftiau lle nad oedd hynny’n digwydd.
Ar y mater strategaeth gofal, gwn y bydd gennych gyfle i godi’r pryderon hyn yn y cwestiynau iechyd a fydd yn digwydd yfory.
Hoffwn godi dau fater a gofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog economi a thrafnidiaeth ynghylch diogelwch ar y ffyrdd ar yr M4 rhwng cyffordd 44, sydd yn fy etholaeth i, a chyffordd 46 sydd, rwy'n credu, yn etholaeth y Gweinidog? Mae nifer fawr o ddamweiniau wedi digwydd, ac mae’r bobl leol wedi sôn am ddraenio dŵr ac wyneb y ffordd yn yr ardal honno.
Yn ail, a gaf i fynd yn ôl at y swyddi sy’n cael eu colli yng nghanolfan alwadau Virgin Media yn Abertawe? Ym mis Ionawr, fe ddywedasoch chi wrthyf fod y gyfran gyntaf o staff hynny wedi gadael ym mis Tachwedd a bod dau gam arall wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn hon. Mae tîm cymorth all-leoli Virgin Media wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu mynediad ar gyfer staff ar y safle i bartneriaid allweddol tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Cynhaliwyd ffair swyddi ar safle Virgin Media ym mis Hydref a chynlluniwyd rhagor o ffeiriau swyddi i gyd-fynd â’r cyfrannau cychwynnol o staff fydd yn gadael. Felly, bydd y ffeiriau swyddi eraill hynny yn cael eu hamseru i gyd-fynd â’r cyfrannau eraill o bobl a fydd yn gadael y cwmni. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth nawr, neu a allwch chi ymateb a rhoi rhagor o wybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd yno, sy'n effeithio ar eich etholaeth chi, Julie James, ar fy etholaeth innau, a llawer o rai eraill?
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. Yn sicr, mae pryder ynghylch y damweiniau sydd wedi digwydd yn ddiweddar rhwng cyffordd 44 a 46 ar y draffordd, ac, yn sicr, roedd yn ddrwg calon gen i glywed am y ddamwain angheuol a ddigwyddodd yn ddiweddar ar gyffordd 45, ac, yn amlwg, byddem yn dymuno cydymdeimlo â theulu’r unigolyn dan sylw. Sicrhau diogelwch ar ein rhwydwaith ffyrdd yw ein prif bryder yn y fan hon, ac mae swyddogion yn aros am adroddiad manwl ac ymchwiliad yr heddlu ynghylch y gwrthdrawiad penodol hwnnw ar hyn o bryd. Gallaf ddweud bod gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio ar y rhan hon o'r M4 rhwng cyffyrdd 45 a 46—ar y ffyrdd tua'r dwyrain a thua'r gorllewin—a bydd rhaglennu'r gwaith yn dibynnu ar flaenoriaethu a’r arian fydd ar gael. Ond yn y cyfamser, bydd ein hasiant yn parhau i arolygu’r rhan hon o’r briffordd yn rheolaidd gan atgyweirio diffygion sy’n ymwneud â diogelwch fel y byddan nhw’n codi.
Ynghylch mater Virgin Media a’r swyddi sy’n cael eu colli, nid oes gen i lawer mwy i’w ychwanegu at yr wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi inni y prynhawn yma. Ond gallaf gadarnhau y bwriedir cael dau gam o ddiswyddiadau pellach yn ddiweddarach eleni, ac y byddwn yn cynnal y ffeiriau swyddi hynny fel eu bod nhw’n cyd-fynd â’r dyddiadau gadael hynny. Gwn fod Mike Hedges a Julie James ac eraill yn ymwneud yn agos iawn â’r mater hwn ac yn siarad â'r gweithlu, ac felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod am unrhyw faterion ychwanegol eraill sydd angen sylw y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gallu helpu gyda nhw.
Trefnydd, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Un ohonynt mewn cysylltiad â ffordd newydd sydd wedi ei chynnig gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg rhwng Sycamore Cross a'r M4 ym Meisgyn. Rydym wedi cael newid Llywodraeth, byddwn i’n awgrymu—nid newid plaid, ond newid Llywodraeth—gyda Gweinidog newydd a Phrif Weinidog newydd, a byddai’n ddiddorol i drigolion yr ardal yr effeithir arni yn sicr pe byddai modd cael gwybod a oes unrhyw newid polisi yn y cynllun trafnidiaeth. Oherwydd, yn amlwg, rydym yn ymwybodol bod y dirprwy Weinidog newydd, byddwn i'n awgrymu, yn wrthwynebus i ffyrdd, a byddai’r trigolion yn hoffi deall a oes unrhyw newid o ran cynllunio, ac yn wir, newid i’r cynllunio a'r cymorth a allai ddod gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu am y prosiect hwn.
Ac, yn ail, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros faterion gwledig mewn cysylltiad â’i hymgynghoriad ynghylch Cyfraith Lucy, hynny yw, gwerthu cŵn bach trydydd parti? Mae hyn yn destun dadl fawr ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol wedi cefnogi'r cynnig sy’n ymwneud â Chyfraith Lucy. Dywedir wrthyf yn hyderus y bydd y rhai nad ydyn nhw wedi ei gefnogi yn dod i gytundeb arno cyn bo hir. Deallaf fod y Gweinidog yn bwriadu cyflwyno ymgynghoriad. Hyd yma, nid yw'r ymgynghoriad hwnnw wedi dod i sylw'r cyhoedd, felly byddai dealltwriaeth o sut y gallai hynny fynd rhagddo yn y dyfodol yn cael ei chroesawu yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Ar fater y ffordd newydd ym Meisgyn, rwy'n credu efallai mai'r peth mwyaf priodol i'w wneud fyddai ichi ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth er mwyn cael yr eglurder yr ydych yn ei geisio ar ran eich etholwyr yn y fan honno.
Ac ynghylch mater Cyfraith Lucy, byddaf yn sicr yn cael sgwrs gyda'r Gweinidog i gael gwybod pryd y cawn ragor o fanylion ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw ac unrhyw gamau arfaethedig sy'n ei ddilyn.
Hoffwn i godi materion yn ymwneud â thryloywder peirianwaith Llywodraeth Cymru ac atebolrwydd gweinidogol priodol i'r Senedd hon. Ers peth amser bellach, mae yna amwysedd ynglŷn â pha Weinidog sy'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol am y gwasanaeth sifil sy'n cefnogi gwaith Gweinidogion. Yn San Steffan, mae'r cyfrifoldeb hwnnw wedi ei roi yn glir iawn i'r Prif Weinidog, ond dydy'r rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol diweddaraf ar gyfer Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi llawer o oleuni ar y mater. Ac mae gen i ymateb i ddau gwestiwn ysgrifenedig a oedd wedi eu cyflwyno gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn gofyn i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, egluro sut y mae peirianwaith adrannau'r gwasanaeth sifil wedi newid yn dilyn penodi ei Gabinet newydd. Ac mae o'n dweud mewn ymateb fod cyfrifoldebau staffio wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Parhaol ac y bydd Shan Morgan yn ysgrifennu at Adam Price efo ateb. Ac mewn ateb i gwestiwn penodol arall, yn gofyn yn blwmp ac yn blaen pa Weinidog sy'n gyfrifol i'r Cynulliad hwn am y gwasanaeth sifil, yr un ydy'r ateb, sef fod materion staffio wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Parhaol. Rŵan, dwi'n gofyn i chi, felly, am eglurder: pa Weinidog sy'n ateb i'r Cynulliad yma am y gwasanaeth sifil yn ei gyfanrwydd a'r weinyddiaeth yn ei chyfanrwydd sydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru?
Ac ar fater cysylltiedig yn ymwneud â thryloywder y gwasanaeth sifil, dwi wedi bod yn bryderus ers tro am y diffyg gallu i gael gwybodaeth am lefelau staffio a strwythurau staffio o ran safonau'r Gymraeg, achos mae hynny'n gallu effeithio'n uniongyrchol ar bolisi'r Llywodraeth yn y maes yna a chyflawni polisi'r Llywodraeth. Mi fu yn arfer gan y Llywodraeth i gyhoeddi siart strwythur o'r prif adrannau a'r prif uwch-weision sifil arweiniol. Ond dwi wedi bod yn chwilio am siart tebyg, ac mae'r un diweddaraf dwi'n medru dod o hyd iddo fo yn dyddio yn ôl i Fai 2017, ac wedi dyddio hefyd, ac roedd yn rhaid i fi fynd i grombil gwefan Llywodraeth Cymru ac archif o'r cyfnod hwnnw i ddarganfod y siart yma. Mae Llywodraeth Mark Drakeford wedi bod yn awyddus iawn, ar yr wyneb beth bynnag, i bwysleisio ymagwedd newydd at Lywodraeth agored, ac yn yr ysbryd hwnnw felly, allwch chi sicrhau bod yna fersiwn gyfredol o siart strwythur lefel uwch y Llywodraeth a'i hadrannau ar gael ar fyrder i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru?
Diolch am godi'r materion hyn. Ynghylch y cyntaf, nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth at yr hyn a oedd yn y ddau ateb i'r cwestiynau ysgrifenedig i Adam Price. Rwyf wedi gweld yr atebion fy hun, a gwn ei fod yn fwriad, fel y dywedwch, i Shan Morgan ysgrifennu at Adam Price mewn ymateb i'w ymholiadau yntau hefyd.
Byddaf yn sicr yn archwilio'r mater yr ydych wedi ei godi ynghylch tryloywder mewn cysylltiad â safonau'r Gymraeg, o ran yr uwch wasanaeth sifil yn arbennig, a byddaf yn ysgrifennu atoch gyda rhagor o wybodaeth.
Arweinydd y Tŷ, ddydd Sadwrn diwethaf roeddwn i mewn cyfarfod o Fenywod Castell-nedd Port Talbot yr 1950au—gan wneud yn siŵr fod y derminoleg honno'n gywir gennyf i. Roedd yn llawn dop yn y cyfarfod, gyda dros 400 yn bresennol. Nawr, rwy'n sylweddoli mai mater i San Steffan yw pensiynau, a'r mater hwn yn benodol, ond mae'r canlyniadau yn digwydd mewn gwirionedd yn y cymwyseddau datganoledig. Os oes gennym ni fenywod na allant bellach ymddeol pryd yr oedden nhw wedi bwriadu gwneud, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu, pwy fydd yn gyfrifol am y cyfrifoldebau gofalu hynny? Byddan nhw'n dibynnu ar y gwasanaethau a gynigir yng Nghymru. Felly, mae nifer o faterion sydd mewn gwirionedd o fewn ein cymwyseddau datganoledig. Mae'n bwysig inni gael bargen deg ar gyfer menywod hyn, ac rwy'n datgan diddordeb yma, Llywydd, gan fod gennyf fi aelodau o'm teulu i—ni fyddaf yn eu henwi nhw, rhag ofn y caf fy saethu pan af i adref—sydd yn y sefyllfa honno. Ond mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod llawer iawn o fenywod yn cael cam i'r fath raddau fel na fyddan nhw'n gallu gadael eu gwaith oherwydd na allan nhw fforddio i adael eu gwaith. Gall fod ganddyn nhw gyfrifoldebau eraill, sy'n rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw. Mae'n bryd i ni nawr wneud cymaint ag y gallwn i'w helpu nhw. A wnewch chi roi datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau a gymerwyd i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau y bydd dinasyddion Cymru sydd yn y sefyllfa hon yn elwa mewn gwirionedd ar y cytundebau? Mae cytundebau amrywiol yn cael eu trafod, ond maen nhw'n haeddu'r hyn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, a hynny yw pensiwn gan y wladwriaeth yn 60 oed.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r mater hwn. Fel y dywedwch, nid yw materion pensiwn wedi cael eu datganoli, ond mae'r effaith a gaiff hyn ar y menywod dan sylw yn ofid mawr i Lywodraeth Cymru heb unrhyw amheuaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein pryderon ynghylch yr effaith anghymesur a gaiff Deddfau pensiwn 1995 a 2011 ar fenywod sydd wedi gweld yr oedran y byddan nhw'n cael pensiwn gan y wladwriaeth yn cael ei godi'n sylweddol, heb rybudd effeithiol na digonol. Ac, fel y dywedwch, mae llawer o fenywod yn y grŵp oedran arbennig hwn wedi gweithio mewn swyddi rhan-amser, swyddi ar gyflog isel yn aml, ac wedi cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blant a pherthnasau oedrannus, a hefyd wedi gweld anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran cyflog am y rhan fwyaf o'u gyrfa. Felly, mae'n amlwg mai annhegwch mawr yw'r hyn sy'n cael ei wneud i'r garfan arbennig hon o fenywod. Fel y dywedaf, rydym eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ond rydych chi wedi ei godi yma yn y Siambr, ac yn sicr byddwn i fy hunan yn hapus i godi hynny unwaith eto.
Diolch i'r Trefnydd.