Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 5 Chwefror 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sawl peth y byddem ni yn UKIP yn ei feirniadu. Fodd bynnag, teimlwn fod gennym ni ddyletswydd i bobl Cymru i gefnogi Llywodraeth Cymru lle'r ydym ni o'r farn fod eu gweithredoedd, ar y cyfan, wedi bod yn briodol. Roedd dechrau masnachfraint rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru fis Hydref y llynedd yn adeg allweddol i ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Ni ragwelodd masnachfraint 15 mlynedd y gweithredwr blaenorol unrhyw dwf yn nifer y teithwyr. Roedd y dybiaeth hon yn rhy isel o lawer, oherwydd cynyddodd nifer y teithwyr bob blwyddyn yn ystod cyfnod y fasnachfraint ddiwethaf, a arweinodd, yn anochel, at orlenwi cronig, yn enwedig ar linellau craidd y Cymoedd.
Roedd proses y fasnachfraint newydd yn orchwyl anferth i Lywodraeth Cymru, ac mae arnom ni yn UKIP eisiau talu teyrnged i waith y Gweinidog, Ken Skates, a'i adran yn sicrhau masnachfraint sy'n addo darparu trenau newydd, cynyddu cysylltedd a gwella cyfleusterau i deithwyr. Yn wir, mae llawer i edrych ymlaen ato yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n ymddangos bod cyfiawnhad llwyr dros ddefnyddio'r broses ddeialog gystadleuol. Er i'r dyddiau cyntaf o dan y gweithredwr newydd fod yn lled simsan, efallai, gyda'r oedi a'r canslo gwasanaethau a achoswyd oherwydd diffyg cerbydau, mae'n bwysig nodi nad oedd newid mawr byth yn mynd i ddigwydd dros nos. Cymharwch y dechreuad sigledig hwnnw, fodd bynnag, â pherfformiad yr wythnos diwethaf, pan oedd rhannau helaeth o Gymru o dan flanced o eira ac roedd llawer o'r trenau yn rhedeg ar amser neu gyda'r lleiafswm o oedi.
Credaf mai un o'r materion y mae hyn yn ei amlygu yw bod gweithredwyr y rheilffyrdd—y gorffennol a'r presennol—wedi bod yn cerdded llinell fain o ran cerbydau. Dim ond tri chwmni prydlesu trenau sydd yn y DU. Mae hyn, ynghyd â'r prosiectau trydaneiddio yn Lloegr sydd wedi'u gohirio, yn golygu na all unedau diesel gael eu dosbarthu'n helaeth, mae hyn wedi gwneud caffael cerbydau newydd neu hyd yn oed rai wedi'u hadnewyddu yn anodd dros ben, yn enwedig yn y tymor byr. Bydd cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch pum trên pedwar-cerbyd dosbarth 769 i redeg ar linellau Cymoedd y De, ynghyd â chyflwyno trenau dosbarth 230 wedi'u hailadeiladu, yn rhoi cymorth tymor byr cyn y gellir dod o hyd i, a darparu, trenau newydd. Os cyfunwn y gwahanol brosiectau metro, megis y gorsafoedd sydd wedi'u hadnewyddu'n llwyr, ac, mewn rhai achosion, gorsafoedd newydd, dylai teithwyr weld gwelliannau trawsnewidiol yn ystod oes y fasnachfraint newydd. Er ein bod yn edrych ymlaen at y gwelliannau hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am weithredu hynny.
Wrth gwrs, mae'n deg dweud bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad dros gyfnod hir. Mae Llywodraethau olynol San Steffan, o bob lliw, wedi cyfrannu at hyn, ac ni welaf fod unrhyw fudd bwrw bai ar wleidyddiaeth y gorffennol ar hyn o bryd. Bellach, mae angen i'r DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i hybu gwelliannau. Am y rheswm hwn, Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r adroddiad gan yr Athro Mark Barry ynglŷn â'r ddadl dros fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dadlau'n frwd dros weddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru gyfan, nid yn unig ardaloedd cymudo y de a'r gogledd. Ar y cyfan, rwy'n credu y dylem ni hefyd fod yn gadarnhaol am adolygiad Williams. Rwy'n obeithiol y bydd yn rhoi sylw eang ac annibynnol i ddyfodol y rheilffyrdd ledled y DU, heb orfod troi at bwyntio bys at bwy sydd ar fai am fethiannau'r gorffennol. Yn fy nhyb i, y peth pwysicaf i gyd yw ailennyn hyder y cyhoedd yn rheilffyrdd y dyfodol.
A siarad yn fras, mae rheilffyrdd y DU yn cael gwir ddadeni, gyda chynnydd yn nifer y teithwyr a nwyddau yn arwain at lai o geir a lorïau ar ein ffyrdd. Ni allwn ni adael Cymru ar wahân. Nid oes unrhyw ffin galed rhwng Cymru a Lloegr, ac, wrth gwrs, mae llawer o ganghennau ar ein rhwydwaith yn ymestyn i Loegr. Felly, beth bynnag a fydd yn cael ei argymell gan adroddiad Williams yn y pen draw, byddem ni ar y meinciau hyn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU i ddarparu rhwydwaith rheilffyrdd sy'n wirioneddol gwasanaethu pobl Cymru. Byddwn, wrth gwrs, yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi bwyso i weithredu canfyddiadau adolygiad Williams yng Nghymru.
Ni allaf adael i'r foment yma fynd heibio, Dirprwy Lywydd, heb orfod gwrth-ddweud y sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Flaenau Gwent pan ddywedodd fod cyswllt rheilffordd i mewn i Gasnewydd yn hollol ddiangen. Nid dyna rwy'n ei glywed gan bobl ar lawr gwlad. Maen nhw'n awyddus iawn i gael y cysylltiad hwnnw. Pam y dylid trin dinas Casnewydd yn eilradd o'i chymharu â Chaerdydd? Mae'n sylw ofnadwy gennych chi—[Torri ar draws.] Gallwch wrth gwrs—Ildiaf.