Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Weinidog, a byddwch yn gwybod, i lawer o blant yng Nghymru, fod y cymorth a gynigir gan eu hysgolion yn allweddol er mwyn trawsnewid eu cyfleoedd bywyd a rhoi siâp i'w bywydau yn gyffredinol a datblygu eu hunanhyder. A fyddech yn cytuno, felly, wrth inni ddatblygu'r cwricwlwm newydd a'i roi ar waith, ac wrth inni feddwl am gyllido ein gwasanaethau ysgol yn y dyfodol, fod angen sicrhau bod mynd i'r afael ag anfantais yn parhau i fod yn flaenoriaeth greiddiol i bolisïau addysg y Llywodraeth hon? Ac a allwch roi rhai enghreifftiau ymarferol i mi o sut y gellir gwneud hynny?