Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch, Nick. Rwy'n falch o glywed am gynnydd yr ysgol y cyfeiriwch ati. Nid yw'n sgil-fantais annisgwyl—mae'n gynllun dyfeisgar. Yn wir, wrth ddyrannu contractau i gwmnïau i adeiladu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ceir disgwyliad, yn wir, gofyniad, eu bod yn ymgysylltu â phlant yr ysgol honno wrth adeiladu'r ysgol, ac y byddant hefyd yn ceisio ehangu cyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc hŷn wrth ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Felly, nid cyd-ddigwyddiad hapus mohono—mae wedi'i gynllunio.
Rydym bellach yn dod tuag at ddiwedd cam cyntaf band A rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac rydym eisoes yn dechrau asesu cynigion gan awdurdodau addysg lleol mewn perthynas â'u gofynion ar gyfer band B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ac fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi gwneud hyn hyd yn oed yn fwy fforddiadwy i awdurdodau lleol drwy godi'r gyfradd ymyrraeth. Hynny yw, bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo mwy o gyfalaf i raglen band B, gan alluogi awdurdodau lleol i arbed ar gostau refeniw sy'n gysylltiedig â benthyca ac i sicrhau y gall awdurdodau lleol fod mor uchelgeisiol â phosibl gyda'u cynlluniau. Hwy sy'n cynnig yr ysgolion, ac rwy'n siŵr y byddwch yn trafod â'ch cydweithwyr yn Sir Fynwy i weld a fydd Ysgol Brenin Harri'r VIII yn un o'r ysgolion a gaiff eu cynnig, ac edrychaf ymlaen at gael argymhellion gan y bwrdd buddsoddi cyfalaf annibynnol o ran beth y gallwn ei wneud yn Sir Fynwy.
Wrth gwrs, nid dyna'r unig raglen y mae Cyngor Sir Fynwy yn elwa ohoni. Mae'r rhaglen cyfrwng Cymraeg hefyd yn rhywbeth y mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais llwyddiannus amdani, ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn talu 100 y cant o gost yr adeiladau newydd hynny.