Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Chwefror 2019.
Weinidog, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan fy awdurdod lleol, undebau llafur, cymunedau lleol ynghylch arian y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig gan Lywodraeth Cymru. Deallaf eich bod wedi cadw'r ffigur yr un fath eleni â'r llynedd a'ch bod wedi'i roi i bedair o'r dinasoedd mawr yng Nghymru er mwyn edrych ar sut y'i dosberthir. Ond mae'r ddemograffeg yn newid yn y trefi a'r ardaloedd a'r awdurdodau lleol, ac felly mae anghenion yn newid. A'r hyn a welwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn arbennig, yw dirywiad yn y gwasanaeth o ganlyniad i golli cyllid. A wnewch chi ailedrych ar y blaenoriaethau ar gyfer y grant hwn er mwyn sicrhau bod y cymunedau sy'n ei haeddu ac sy'n elwa'n fawr ohono yn gallu ei gael?