Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:42, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, unwaith eto. Un o nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 yw gwella lles gofalwyr sydd angen cymorth. Yn dilyn hyn, mae gan ofalwr o unrhyw oedran yr un hawliau i gael eu hasesu ar gyfer cymorth â'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt. Cynhelir yr asesiadau hyn gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw cyfanswm nifer y staff gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwella mewn unrhyw ffordd ystyrlon ers 2014-15, yn enwedig o ystyried y lefelau uchel o salwch a straen sy'n bodoli yn yr adrannau hynny. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu cael eu hasesiad o anghenion yn llawn—a'i fod yn asesiad dilys—ac yna'n cael y cymorth dilynol sydd ei angen arnynt, a'u bod yn ei gael yn ddiymdroi?