Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 6 Chwefror 2019.
Mae'n hollol hanfodol, fel y dywed yr Aelod, fod asesiadau cywir yn cael eu cynnal ar gyfer gofalwyr ifanc, ac mae hynny'n ofynnol o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond gwn nad yw llawer o ofalwyr ifanc wedi cael asesiadau a gwn fod y modd y caiff yr asesiadau eu rhoi ar waith yn amrywio. Felly, mae'r Llywodraeth yn edrych ar hyn—yn edrych ar sut i wella hyn ac yn edrych ar hyn drwy grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ac mewn ffyrdd eraill. Ond credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gofalwyr ifanc yn cael eu hasesu, oherwydd un o'r pethau sy'n rhaid ichi eu hystyried mewn asesiad yw sut y mae bod yn ofalwr yn effeithio ar fywyd arferol o ddydd i ddydd fel y bydd unigolyn ifanc ei angen, ac mae gwir angen i'r asesiadau ystyried hynny. Felly, mae'r asesiadau yn hollbwysig, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn fwy cyson ac ar gael yn ehangach.