Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 6 Chwefror 2019.
Wel, os ydyn nhw wedi gorffen toethan ar draws y Siambr, fe wnaf i ofyn fy nghwestiwn.
Mae myfyrwyr nyrsio ym Mangor yn pryderu ynglŷn â bygythiad posibl i'w cyrsiau nhw oherwydd toriadau yn y brifysgol. Ar adeg pan fo angen llawer mwy o nyrsys arnom ni yn y gogledd i lenwi cannoedd o swyddi gwag, mae yna gwestiynau yn codi ynglŷn ag a ydy adrannau o fewn y Llywodraeth fan hyn yn siarad â'i gilydd. Oherwydd heb arian digonol i brifysgolion ar gyfer darlithwyr, mi fydd yna lai o nyrsys yn cael eu cynhyrchu, ac yna mi fydd dibyniaeth y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar staff asiantaeth a locyms costus a drudfawr yn dwysáu. Felly, onid yw hyn yn enghraifft o ddiffyg cydweithio ar draws y Llywodraeth, sydd, o ganlyniad, yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth?