2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 6 Chwefror 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu gofal iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ53334
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, fel y gwelwyd gyda'r dyraniad o £1.4 biliwn yn 2018-19. Rydym wedi darparu cymorth ychwanegol penodol eleni, i sicrhau cyfanswm o bron £20 miliwn i gefnogi perfformiad, pwysau'r gaeaf, capasiti a gallu o fewn y sefydliad.
Wel, mae un bob o bump o gleifion Ysbyty Iarlles Caer yn dod o Gymru, a'r wythnos diwethaf, holais eich cyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ar ôl i Ysbyty Iarlles Caer adrodd ym mis Rhagfyr fod oedi wrth drosglwyddo gofal—sy'n fwy cyfarwydd i rai fel blocio gwelyau—yn achos cleifion o Gymru wedi codi 26 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, er ei fod wedi gostwng 24 y cant yn achos cleifion yng ngorllewin Cymru. A dywedodd eu prif swyddog cyllid fod system gorllewin swydd Gaer yn darparu capasiti ychwanegol a bod yn rhaid i Gymru ddarparu rhywfaint o gapasiti ychwanegol hefyd. Dywedodd y Gweinidog cyllid y byddai'n cyfeirio hynny atoch.
Y bore yma, cefais i a phump o ACau eraill e-bost gan chwythwr chwiban a oedd yn disgrifio eu hunain fel 'un o gefnogwyr pryderus y GIG yn Betsi Cadwaladr', a ddywedai nad yw'n syndod fod y bwrdd iechyd wedi methu adennill eu costau yn unrhyw un o'r blynyddoedd ers i chi eu rhoi mewn mesurau arbennig, a bod yr adran reoli'n gwastraffu adnoddau gwerthfawr ac arian cyhoeddus ar systemau TG, megis system TG HealthRoster ar gyfer rheoli gweithgarwch clinigol, sydd wedi costio dros £200,000. Ni wnaed unrhyw ddadansoddiad o'r treial cychwynnol, ni chyflawnwyd achos busnes priodol, mae methiant y prosiect wedi'i guddio rhag y cyhoedd, treialwyd hyn yn aflwyddiannus yn 2015 gydag adborth negyddol, a'r consensws ymysg arbenigwyr meddygol oedd nad yw'r system yn addas i'r diben, ond fe'i rhoddwyd ar waith serch hynny. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf wrth holi'r Gweinidog cyllid, beth sy'n digwydd, Weinidog, gan mai chi sy'n gyfrifol am hyn yn y pen draw?
Wel, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar e-bost a gawsoch heddiw gan chwythwr chwiban ynglŷn â'i safbwynt, ond rydym am roi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw un a phawb sy'n mynegi pryderon ynglŷn â'r defnydd o arian. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r prosiect a grybwylloch yn mynd i mewn i ran gyntaf eich cwestiwn a'r anghytuno rhwng ymddiriedolaeth Iarlles Caer a'r system iechyd a gofal yng ngogledd Cymru. Mewn gwirionedd, y gwir amdani yw ein bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng ngogledd Cymru. Y rheswm am hynny yw bod iechyd a gofal cymdeithasol wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hynny. Bu'n rhaid imi gael cyfarfodydd personol ag iechyd a llywodraeth leol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o weld cyflawniad gwirioneddol a pharhaus. Dylem gydnabod hynny, a pheidio â bod mor barod i lyncu dadl ymddiriedolaeth Iarlles Caer. Os edrychwch ar eu heriau ariannol hwy, ychydig iawn sydd a wnelo hynny â'r system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Er enghraifft, pe bai diffyg ymddiriedolaeth Iarlles Caer yn cael ei drosglwyddo i fwrdd Betsi Cadwaladr, byddai'n dyblu'r diffyg, bron â bod, ym mwrdd Betsi Cadwaladr. Nid problem Cymru yw eu heriau ariannol hwy. Rwy'n dechrau colli amynedd gyda'r ffordd y maent yn ceisio beio gogledd Cymru am yr heriau y maent yn eu hwynebu. Rwyf am weld system iechyd a gofal sy'n gweithio i'r unigolyn—partneriaeth wirioneddol gydweithredol dros y ffin, ond mae hynny'n galw am lefel well o ymddygiad gan gymheiriaid yng Nghaer.
Llyr Gruffydd.
Gwarthus.
Diolch, Lywydd.
Mae'n warthus, rydych yn llygad eich lle.
Wel, os ydyn nhw wedi gorffen toethan ar draws y Siambr, fe wnaf i ofyn fy nghwestiwn.
Mae myfyrwyr nyrsio ym Mangor yn pryderu ynglŷn â bygythiad posibl i'w cyrsiau nhw oherwydd toriadau yn y brifysgol. Ar adeg pan fo angen llawer mwy o nyrsys arnom ni yn y gogledd i lenwi cannoedd o swyddi gwag, mae yna gwestiynau yn codi ynglŷn ag a ydy adrannau o fewn y Llywodraeth fan hyn yn siarad â'i gilydd. Oherwydd heb arian digonol i brifysgolion ar gyfer darlithwyr, mi fydd yna lai o nyrsys yn cael eu cynhyrchu, ac yna mi fydd dibyniaeth y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar staff asiantaeth a locyms costus a drudfawr yn dwysáu. Felly, onid yw hyn yn enghraifft o ddiffyg cydweithio ar draws y Llywodraeth, sydd, o ganlyniad, yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth?
Rydym yn talu am gyrsiau nyrsys a ddarperir ym Mangor. Maent yn rhan o'r niferoedd a'r niferoedd hyfforddi rwyf wedi buddsoddi ynddynt, a chyfeiriais atynt yn fy ateb i Neil Hamilton. Rwy'n disgwyl y cynhyrchir y niferoedd ac y sicrheir ansawdd yr hyfforddiant a'r gofal. Os oes pryderon difrifol a dilys, fel y dywedoch chi, buaswn yn falch iawn o glywed gennych yn uniongyrchol ynglŷn â manylion hynny, gan fy mod yn awyddus i sicrhau, fel y dywedaf, fod y niferoedd a'r ansawdd yn cael eu diogelu. Wedi'r cyfan, rydym yn buddsoddi yng ngweithlu'r dyfodol.