Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 6 Chwefror 2019.
Rydym yn talu am gyrsiau nyrsys a ddarperir ym Mangor. Maent yn rhan o'r niferoedd a'r niferoedd hyfforddi rwyf wedi buddsoddi ynddynt, a chyfeiriais atynt yn fy ateb i Neil Hamilton. Rwy'n disgwyl y cynhyrchir y niferoedd ac y sicrheir ansawdd yr hyfforddiant a'r gofal. Os oes pryderon difrifol a dilys, fel y dywedoch chi, buaswn yn falch iawn o glywed gennych yn uniongyrchol ynglŷn â manylion hynny, gan fy mod yn awyddus i sicrhau, fel y dywedaf, fod y niferoedd a'r ansawdd yn cael eu diogelu. Wedi'r cyfan, rydym yn buddsoddi yng ngweithlu'r dyfodol.