Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 6 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar fin trafod newidiadau pellgyrhaeddol i'r ffordd mae rhai gwasanaethau'n cael eu darparu ar draws y gogledd. Mae'r newidiadau yn cynnwys darparu gwasanaethau wroleg ar ddau safle yn lle tri, symud gofal strôc o ddau safle a symud gwasanaethau orthopedig o ddau le. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno fod angen i'r bwrdd iechyd fod yn gwbl dryloyw efo'r cyhoedd pan mae newidiadau mawr fel hyn yn cael eu trafod. Yn anffodus, maen nhw'n ceisio cyflwyno'r newid drwy'r drws cefn. A wnewch chi sicrhau fod ymgynghori trwyadl yn digwydd ac asesiadau effaith manwl yn cael eu gwneud cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu cymryd?