Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 6 Chwefror 2019.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol i GIG Cymru ar ymgysylltu ac ymgynghori pan fyddant yn ystyried gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd. Rwy'n disgwyl y byddant yn ystyried y canllawiau'n llawn ac yn cynnwys rhanddeiliaid—gan gynnwys y cyhoedd, wrth gwrs—yn llawn pan fyddant yn argymell unrhyw newidiadau.