7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:22, 6 Chwefror 2019

Dwi’n gobeithio y gall pawb ohonom ni gefnogi gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Yn 2017, fe wnaeth Adam Price a minnau gyhoeddi’r papur trafod yma, ‘Dyfodol y Gorllewin: Cydweithio er Lles yr Economi a’r Gymraeg’. Roedd yn amlinellu’r awydd i weld cynghorau sir y gorllewin—Môn, Gwynedd, Ceredigion a sir Gâr—yn gweithio efo’i gilydd ar faterion strategol datblygu economaidd.

Mae sefyllfa economaidd ac ieithyddol y gorllewin wedi cyrraedd pwynt argyfyngus—allfudo pobl ifanc, lefelau incwm y pen yn isel, ymhlith yr isaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi, y Gymraeg fel iaith gymunedol yn edwino, a Brexit yn bygwth dyfodol amaeth a’r cymunedau cefn gwlad a phrifysgolion yr ardal hefyd. Mae’r heriau yn fawr ac mae angen atebion brys.

Fe lwyddodd Plaid Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i neilltuo £2 filiwn tuag at y gwaith cychwynnol, ac mae egin rhanbarth economaidd y gorllewin—Arfor—bellach wedi ei sefydlu. Mae’r cysyniad yn cydio ac yn gwreiddio. Bydd yn gallu mynd o nerth i nerth o hyn ymlaen, a gweledigaeth Plaid Cymru ydy creu rhanbarth economaidd gref yn y gorllewin, a fydd yn gweithredu ymyraethau economaidd effeithiol er mwyn taclo rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu’r ardal wledig, Gymreig yma. Mi fydd y rhanbarth yn cynnwys ardaloedd twf megis ardal y Fenai, sydd yn cwmpasu rhan o fy etholaeth i yn Arfon.

Mae’r Torïaid, ac, fe ymddengys, y Llywodraeth Lafur hon hefyd, yn rhoi llawer iawn o’u sylw ar y dinasoedd rhanbarth. Dydy hynny ddim yn mynd i gryfhau’r mwyafrif o ardaloedd sydd yn fregus yn economaidd yng Nghymru. Mae’n strategaeth datblygu economaidd wallus yn fy marn i, am ei bod yn un sy’n dilyn ideoleg y farchnad rydd. Pen draw creu’r dinasoedd rhanbarthol ydy sugno twf i ardaloedd sydd yn tyfu’n barod, gan amddifadu’r ardaloedd gwledig a’r ardaloedd difreintiedig o'r gefnogaeth economaidd sydd ei hangen. Ac i mi, dylai’r strategaeth economaidd fod yn cefnogi’r ardaloedd a’r boblogaeth sydd angen cefnogaeth. Ond, ar hyn o bryd, polisi 'i’r pant y rhed y dŵr' sydd ar waith: crynhoi adnoddau mewn ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu.

Felly, diolch byth am yr egin Arfor. Mae bwrdd Arfor wedi cael ei sefydlu rhwng y bedair sir, ac fe gytunwyd ar ddatganiad o bwrpas, sef gweithio mewn partneriaeth i sefydlu fframwaith lle bydd datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yn cael eu cydgysylltu. Fe fydd cynllun strategol yn cael ei baratoi fydd yn gosod gweledigaeth hirdymor a ffordd o weithio i gyflawni ffyniant economaidd ac ieithyddol yng ngorllewin Cymru. Yn ogystal, fe fydd ystod o brosiectau yn cael eu gweithredu a’u gwerthuso er mwyn canfod y ffyrdd mwyaf effeithiol o greu ffyniant economaidd ar lawr gwlad, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn datblygu.

Megis dechrau mae hyn. Mae Arfor yn wrthbwynt pwysig i’r dinasoedd rhanbarth a’r ardaloedd twf, ac mae’n haeddu cael ei chydnabod yn llawn fel y gall datblygu’n bwerdy grymus gorllewinol i’r dyfodol.