Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 12 Chwefror 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno heddiw i'r Cynulliad ar gyfer eu cymeradwyo fanylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru am 2019-20.
Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd heddlu am y gwaith a wneir ganddynt ledled Cymru yn cadw ein cymunedau yn ddiogel, yn cynnal y safonau uchaf o ddyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad ar gyfer y lle hwn.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y caiff y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei roi drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei osod a'i symbylu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn seiliedig felly ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 24 Ionawr, cyfanswm y refeniw cymorth heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2019-20 yw £357 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn, drwy grant cymorth refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosbarthwyd, yw £143.4 miliwn, a hwnnw yw'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu y bydd pob comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 2.1 y cant yn eu cyllid yn ystod 2019-20 o'i gymharu â 2018-19. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £4.1 miliwn i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.
Fel y byddwch yn ymwybodol, yn ystod 2019-20, bydd gan homisiynwyr heddlu a throseddu y pwysau ychwanegol o ariannu costau cynyddol pensiynau. Dro ar ôl tro rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau yn llawn. Amcangyfrifir y bydd y gost tua £330 miliwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Swyddfa Gartref wedi dyrannu grant ychwanegol o £143 miliwn yn benodol i helpu gyda'r costau pensiwn uwch hyn, ac mae £7.3 miliwn o hwn wedi ei ddyrannu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Roedd hyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid adeg cyllideb y DU yn 2016.
Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu hefyd y gallu i godi arian ychwanegol drwy braesept eu treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu hyblygrwydd y praesept i ganiatáu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yn Lloegr godi praesept eu treth gyngor hyd at £24 yn 2019-20, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi hyd at £500 miliwn ychwanegol. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor, heb fod yn ddarostyngedig i'r terfynau sy'n gymwys yn Lloegr. Wrth setlo eu helfen nhw o'r dreth gyngor, rwy'n disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd sy'n rhesymol ac ystyried y cyfyngiadau sydd ar aelwydydd dan bwysau.
Rydym yn gwerthfawrogi bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith gymaint â phosibl ar ddiogelwch cymunedau Cymru. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn ei chyllideb 2019-20 ar gyfer blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan yr ymrwymiad rhaglen lywodraethu flaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr un lefel o gyllid i gyflawni'r ymrwymiad hwn fel yr oedd yn 2018-19, gyda £16.8 miliwn wedi'i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Defnyddiwyd y cyflenwad llawn o swyddogion ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Un o'r prif ffactorau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu presenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar ariannu'r heddlu. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw Cymru wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer y swyddogion ag a welwyd yn Lloegr, ac mae ein swyddogion ychwanegol yn ymdrin â mân droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyddiannus.
Llywydd, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw.