5. Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:43, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd pob heddlu yng Nghymru yn derbyn cynnydd mewn termau gwirioneddol yn 2019-20, cynnydd o 4.9 y cant yng Ngwent, 5 y cant yn y de, 5.3 y cant yn y gogledd a 6.1 y cant yn Nyfed-Powys. Fel y clywsom, mae Swyddfa Gartref y DU yn parhau i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un cynnydd o 2.1 y cant mewn cymorth refeniw unwaith eto, fel y clywsom, gyda chyfanswm o £357.3 miliwn o gymorth refeniw gan y Llywodraeth i heddluoedd Cymru yn 2019-20, gan gyfuno cyllid o £213.9 miliwn gan y Swyddfa Gartref a'r £143.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru fel y soniodd y Gweinidog.

Wrth gwrs, mae'r drydedd elfen—praesept treth gyngor yr heddlu—yn cynyddu 6.99 y cant yng Ngwent, neu 32 ceiniog yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn helpu i ariannu 40 o swyddogion newydd; 7 y cant yng Ngogledd Cymru, neu 38c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn golygu y bydd modd recriwtio 34 o swyddogion ychwanegol a chwe aelod o staff; 10.3 y cant yn Ne Cymru, gydag addewid o fuddsoddi mewn plismona rheng flaen; a 10.7 y cant yn Nyfed-Powys. Mae'r cynnydd yn Ne Cymru a Dyfed-Powys yn golygu codiad o 46c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog. Gyda Ffederasiwn Heddlu De Cymru yn nodi, yn 2016, fod y bwlch o ran praesept y dreth gyngor gyda heddluoedd eraill Cymru wedi cau erbyn hyn, mae'n rhaid inni ofyn pam mae eu cynnydd nhw y flwyddyn hon gryn dipyn yn uwch na chynnydd Gwent a Gogledd Cymru. Pan bennodd Dyfed-Powys y cynnydd uchaf yng Nghymru o'r blaen, roedd yn beio'r rhewi cyllid blaenorol, er i'r comisiynydd heddlu a throseddu o blith y Ceidwadwyr Cymreig nodi wrth ymadael ei fod wedi darparu mwy o heddweision ar ein strydoedd gwledig am fwy o amser am lai o arian.

Mae Llywodraeth y DU, ers 2015 wedi codi ei chyfraniad at gyllido cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol megis seibrdrosedd, gwrthderfysgaeth a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddi ymrafael â gwerth £545 miliwn o doriadau yn yr heddlu, a etifeddwyd o gyllideb derfynol y Blaid Lafur yn 2010, i'w gwneud erbyn 2014.

Mae arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi'r trosolwg gorau o newidiadau hirdymor, gyda'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos nad oes unrhyw newid arwyddocaol wedi bod mewn troseddau dwyn, a chafwyd gostyngiad o 33 y cant mewn troseddau camddefnyddio cyfrifiaduron. Ar gyfer y mathau o droseddau y credir iddyn nhw gael eu hadrodd yn gywir a'u cofnodi'n gywir, gall data cofnodi'r heddlu helpu i nodi newidiadau byrdymor, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos darlun cymysg—er enghraifft, cynnydd mewn troseddau lladrad ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y tramgwyddau sy'n ymwneud â drylliau tanio.

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos, er bod achosion o ddynladdiad yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 3 y cant yn y flwyddyn a ddiweddodd ym mis Mawrth 2018, yr effeithir ar y tueddiadau o ran dynladdiad gan y modd y cofnodir digwyddiadau eithriadol gydag amrywiol ddioddefwyr, fel yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion, ac mae'r ffigur yn dal i fod yn is na'r penllanw ym mis Mawrth 2008.

Canfu asesiad arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod lefel y troseddau treisgar gyda niwed llai, er enghraifft, trais heb anaf a thrais gyda mân anafiadau, yn sefydlog. Mae cyhoeddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar droseddu yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018, yn nodi, dros y degawdau diwethaf, ein bod yn parhau i weld gostyngiad yn lefelau troseddu yn gyffredinol, ond yn y flwyddyn ddiwethaf ni welwyd unrhyw newid. Fel y dywed, yr arolwg troseddu yw'r dangosydd mwyaf dibynadwy o dueddiadau hirdymor, ac nid yw ystadegau troseddau a gofnodir gan yr heddlu bob amser yn cynnig mesur dibynadwy o lefelau a thueddiadau.

Ni fu unrhyw newid yn y mathau o droseddau treisgar sy'n digwydd yn fwyaf cyffredin. Er bod cynnydd yn nifer y cyfaddefiadau o ymosodiadau, roedden nhw'n parhau i fod 33 y cant yn is nag yn 2008. Yn sesiwn briffio Heddlu Gogledd Cymru y mis diwethaf, clywsom fod y gogledd yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw, bod yr heddlu yno yn canolbwyntio ar ataliad, ond fod troseddau yn esblygu tuag at seibrdroseddu, camfanteisio ar blant yn gorfod cadw gormod o bobl yn y ddalfa o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 oherwydd nad oedd yr asiantaethau datganoledig eraill ar gael i'r bobl dan sylw, a bod y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd ymateb yn arwain atynt yn cael eu brysbennu, er nad ydyn nhw'n barafeddygon effeithlon.

Ceir pryder parhaus hefyd ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r ardoll prentisiaeth, gyda heddluoedd Cymru yn cael eu rhwystro rhag defnyddio'r £2 filiwn y maen nhw'n ei gyfrannu'n flynyddol ar gyfer hyfforddiant. Er iddi gael mwy o gyllid net gan y Trysorlys nag o'r blaen ar gyfer hyn—£600,000 o gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref ar gyfer hyfforddiant yr heddlu yn 2018-19, ac addewid o £400,000 ar gyfer hyfforddiant heddlu—mae gan Lywodraeth Cymru arian parod sy'n parhau i fod ar goll o gyfraniadau'r blynyddoedd blaenorol a ddylai fod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn.