5. Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20

– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 12 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:39, 12 Chwefror 2019

Yr eitem nesaf yw dadl setliad yr heddlu 2019-20. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM6960 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2019-20 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:39, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno heddiw i'r Cynulliad ar gyfer eu cymeradwyo fanylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru am 2019-20.

Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd heddlu am y gwaith a wneir ganddynt ledled Cymru yn cadw ein cymunedau yn ddiogel, yn cynnal y safonau uchaf o ddyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad ar gyfer y lle hwn.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y caiff y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei roi drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei osod a'i symbylu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn seiliedig felly ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.

Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 24 Ionawr, cyfanswm y refeniw cymorth heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2019-20 yw £357 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn, drwy grant cymorth refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosbarthwyd, yw £143.4 miliwn, a hwnnw yw'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu y bydd pob comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 2.1 y cant yn eu cyllid yn ystod 2019-20 o'i gymharu â 2018-19. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £4.1 miliwn i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.

Fel y byddwch yn ymwybodol, yn ystod 2019-20, bydd gan homisiynwyr heddlu a throseddu y pwysau ychwanegol o ariannu costau cynyddol pensiynau. Dro ar ôl tro rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau yn llawn. Amcangyfrifir y bydd y gost tua £330 miliwn i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Swyddfa Gartref wedi dyrannu grant ychwanegol o £143 miliwn yn benodol i helpu gyda'r costau pensiwn uwch hyn, ac mae £7.3 miliwn o hwn wedi ei ddyrannu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Roedd hyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid adeg cyllideb y DU yn 2016.

Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu hefyd y gallu i godi arian ychwanegol drwy braesept eu treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu hyblygrwydd y praesept i ganiatáu i gomisiynwyr heddlu a throseddu yn Lloegr godi praesept eu treth gyngor hyd at £24 yn 2019-20, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi hyd at £500 miliwn ychwanegol. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor, heb fod yn ddarostyngedig i'r terfynau sy'n gymwys yn Lloegr. Wrth setlo eu helfen nhw o'r dreth gyngor, rwy'n disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd sy'n rhesymol ac ystyried y cyfyngiadau sydd ar aelwydydd dan bwysau.

Rydym yn gwerthfawrogi bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith gymaint â phosibl ar ddiogelwch cymunedau Cymru. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn ei chyllideb 2019-20 ar gyfer blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan yr ymrwymiad rhaglen lywodraethu flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr un lefel o gyllid i gyflawni'r ymrwymiad hwn fel yr oedd yn 2018-19, gyda £16.8 miliwn wedi'i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Defnyddiwyd y cyflenwad llawn o swyddogion ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Un o'r prif ffactorau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu presenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar ariannu'r heddlu. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw Cymru wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer y swyddogion ag a welwyd yn Lloegr, ac mae ein swyddogion ychwanegol yn ymdrin â mân droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyddiannus.

Llywydd, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:43, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd pob heddlu yng Nghymru yn derbyn cynnydd mewn termau gwirioneddol yn 2019-20, cynnydd o 4.9 y cant yng Ngwent, 5 y cant yn y de, 5.3 y cant yn y gogledd a 6.1 y cant yn Nyfed-Powys. Fel y clywsom, mae Swyddfa Gartref y DU yn parhau i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un cynnydd o 2.1 y cant mewn cymorth refeniw unwaith eto, fel y clywsom, gyda chyfanswm o £357.3 miliwn o gymorth refeniw gan y Llywodraeth i heddluoedd Cymru yn 2019-20, gan gyfuno cyllid o £213.9 miliwn gan y Swyddfa Gartref a'r £143.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru fel y soniodd y Gweinidog.

Wrth gwrs, mae'r drydedd elfen—praesept treth gyngor yr heddlu—yn cynyddu 6.99 y cant yng Ngwent, neu 32 ceiniog yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn helpu i ariannu 40 o swyddogion newydd; 7 y cant yng Ngogledd Cymru, neu 38c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn golygu y bydd modd recriwtio 34 o swyddogion ychwanegol a chwe aelod o staff; 10.3 y cant yn Ne Cymru, gydag addewid o fuddsoddi mewn plismona rheng flaen; a 10.7 y cant yn Nyfed-Powys. Mae'r cynnydd yn Ne Cymru a Dyfed-Powys yn golygu codiad o 46c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog. Gyda Ffederasiwn Heddlu De Cymru yn nodi, yn 2016, fod y bwlch o ran praesept y dreth gyngor gyda heddluoedd eraill Cymru wedi cau erbyn hyn, mae'n rhaid inni ofyn pam mae eu cynnydd nhw y flwyddyn hon gryn dipyn yn uwch na chynnydd Gwent a Gogledd Cymru. Pan bennodd Dyfed-Powys y cynnydd uchaf yng Nghymru o'r blaen, roedd yn beio'r rhewi cyllid blaenorol, er i'r comisiynydd heddlu a throseddu o blith y Ceidwadwyr Cymreig nodi wrth ymadael ei fod wedi darparu mwy o heddweision ar ein strydoedd gwledig am fwy o amser am lai o arian.

Mae Llywodraeth y DU, ers 2015 wedi codi ei chyfraniad at gyllido cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol megis seibrdrosedd, gwrthderfysgaeth a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddi ymrafael â gwerth £545 miliwn o doriadau yn yr heddlu, a etifeddwyd o gyllideb derfynol y Blaid Lafur yn 2010, i'w gwneud erbyn 2014.

Mae arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi'r trosolwg gorau o newidiadau hirdymor, gyda'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos nad oes unrhyw newid arwyddocaol wedi bod mewn troseddau dwyn, a chafwyd gostyngiad o 33 y cant mewn troseddau camddefnyddio cyfrifiaduron. Ar gyfer y mathau o droseddau y credir iddyn nhw gael eu hadrodd yn gywir a'u cofnodi'n gywir, gall data cofnodi'r heddlu helpu i nodi newidiadau byrdymor, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos darlun cymysg—er enghraifft, cynnydd mewn troseddau lladrad ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y tramgwyddau sy'n ymwneud â drylliau tanio.

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos, er bod achosion o ddynladdiad yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 3 y cant yn y flwyddyn a ddiweddodd ym mis Mawrth 2018, yr effeithir ar y tueddiadau o ran dynladdiad gan y modd y cofnodir digwyddiadau eithriadol gydag amrywiol ddioddefwyr, fel yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion, ac mae'r ffigur yn dal i fod yn is na'r penllanw ym mis Mawrth 2008.

Canfu asesiad arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod lefel y troseddau treisgar gyda niwed llai, er enghraifft, trais heb anaf a thrais gyda mân anafiadau, yn sefydlog. Mae cyhoeddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar droseddu yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018, yn nodi, dros y degawdau diwethaf, ein bod yn parhau i weld gostyngiad yn lefelau troseddu yn gyffredinol, ond yn y flwyddyn ddiwethaf ni welwyd unrhyw newid. Fel y dywed, yr arolwg troseddu yw'r dangosydd mwyaf dibynadwy o dueddiadau hirdymor, ac nid yw ystadegau troseddau a gofnodir gan yr heddlu bob amser yn cynnig mesur dibynadwy o lefelau a thueddiadau.

Ni fu unrhyw newid yn y mathau o droseddau treisgar sy'n digwydd yn fwyaf cyffredin. Er bod cynnydd yn nifer y cyfaddefiadau o ymosodiadau, roedden nhw'n parhau i fod 33 y cant yn is nag yn 2008. Yn sesiwn briffio Heddlu Gogledd Cymru y mis diwethaf, clywsom fod y gogledd yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw, bod yr heddlu yno yn canolbwyntio ar ataliad, ond fod troseddau yn esblygu tuag at seibrdroseddu, camfanteisio ar blant yn gorfod cadw gormod o bobl yn y ddalfa o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 oherwydd nad oedd yr asiantaethau datganoledig eraill ar gael i'r bobl dan sylw, a bod y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd ymateb yn arwain atynt yn cael eu brysbennu, er nad ydyn nhw'n barafeddygon effeithlon.

Ceir pryder parhaus hefyd ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r ardoll prentisiaeth, gyda heddluoedd Cymru yn cael eu rhwystro rhag defnyddio'r £2 filiwn y maen nhw'n ei gyfrannu'n flynyddol ar gyfer hyfforddiant. Er iddi gael mwy o gyllid net gan y Trysorlys nag o'r blaen ar gyfer hyn—£600,000 o gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref ar gyfer hyfforddiant yr heddlu yn 2018-19, ac addewid o £400,000 ar gyfer hyfforddiant heddlu—mae gan Lywodraeth Cymru arian parod sy'n parhau i fod ar goll o gyfraniadau'r blynyddoedd blaenorol a ddylai fod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:49, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma yn ceisio cymeradwyaeth i setliad ariannol yr heddlu hyd at 2019-20 yn ein hatgoffa unwaith eto, mewn ystyr ymarferol iawn, o annigonolrwydd y fframwaith cyfansoddiadol presennol o ran plismona a chyfiawnder. Mae cyfrifoldebau polisi a chyllid yn gyffredinol yn aros gyda San Steffan. Ond mae elfennau hanfodol o gyllid yr heddlu, o ran materion megis diogelwch cymunedol, a fyddai'n gyfrifoldeb i'r adran cymunedau yn Lloegr, yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru y mae honno'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn amdanynt. Ac eto, nid yw cyfiawnder, yn ei ystyr ehangaf, yn gyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, ac nid yw'r trefniadau craffu wedi cael eu datblygu'n ddigonol.

Gan droi at y setliad ei hun, mae hwn yn dilyn cyfeiriad cyffredinol y setliad ariannu y cytunwyd arno yn San Steffan fis diwethaf. Fel y gwnaeth datganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ein hatgoffa ni ym mis Rhagfyr pan gyhoeddwyd y cynigion cychwynnol, seilir y fformiwla gyfan ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Er hynny, gwyddom pe byddai plismona yng Nghymru yn cael ei ariannu ar sail poblogaeth, fel y gwneir gyda gwasanaethau datganoledig eraill, y byddai gan yr heddluoedd yng Nghymru dros £20 miliwn y flwyddyn o arian ychwanegol. Ni allaf weld sut y gall Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu pan fo'r system yn gwarantu annhegwch o'r fath i Gymru a'r heddluoedd plismona yng Nghymru. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni sut mae hyn yn gyson â safbwynt Llywodraeth Cymru o blaid datganoli plismona a chyfiawnder. Yn ddiamau, mae'r trefniadau presennol yn groes i degwch a chysondeb.

O ystyried y cymhlethdod ynghylch pwy sy'n gyfrifol am bolisi ac ariannu, ac yn aml, y gwahaniaethu camarweiniol yn rhaniad y pwerau a'r cyfrifoldebau rhwng Cymru a San Steffan, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech roi eglurder ar rai materion manwl yn eich ateb. Yn arbennig, caiff cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol hanner ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. A oes modd ichi roi sicrwydd, Gweinidog, y bydd hyn yn parhau, ac, os felly, am ba hyd, gan mai'r swyddogion hyn yw sylfaen ein system o blismona cymunedau? Caiff swyddogion SchoolBeat eu hariannu gan Lywodraeth Cymru hefyd. Maen nhw'n darparu cyswllt ag ysgolion ac maen nhw'n bwysig iawn o ran cyfiawnder adferol. A wnaiff hi roi sicrwydd ynghylch cyllid i'r dyfodol ar gyfer y rhain? Dyrannwyd £2 biliwn i'r GIG yn Lloegr ar gyfer iechyd meddwl, gyda phwyslais arbennig ar leihau'r galw am blismona. Pa sicrwydd a all hi ei roi i ni y bydd y setliad hwn yn lleihau pwysau tebyg ar heddluoedd Cymru?

Mae rhaid dweud na all fod yn dderbyniol nac yn gynaliadwy i gyllid ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol yn ei ystyr ehangaf gael ei rannu rhwng dwy Senedd a dwy Lywodraeth yn y modd hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Siomedig yw gorfod dweud wrthych chi, Gweinidog, bod eich cymheiriaid Llafur yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf ychydig wythnosau'n ôl wedi gwrthod gwelliant gan Blaid Cymru yn galw am ddatganoli'r heddlu er mwyn gallu goresgyn rhai o'r anghysondebau hyn. Tybed a oes gan y Gweinidog farn ynglŷn â'i chymheiriaid yn pleidleisio yn erbyn polisi'r Blaid Lafur yn y modd hwn. Yn ddiamau, mae'r amser wedi dod yn awr i ni gyd gytuno y dylai polisi plismona Cymru, fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, fod yma yn ein Senedd genedlaethol ni, nid ym mhrifddinas gwlad arall, ymhell o'r mannau y mae'r heddluoedd yn gweithio mewn gwirionedd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:53, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Wel, codwyd nifer o faterion yno, dau neu dri ohonyn nhw'n deilwng, yn fy marn i, o'u trafod rywfaint ymhellach. Mae'r cyntaf yn ymwneud â datganoli plismona. Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood: nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ymatebwyr golau glas beidio â chael eu datganoli i Gymru, ac rydym wedi galw dro ar ôl tro am ddatganoli plismona ynddo'i hun yn ogystal ag yn rhan o drosglwyddiadau cyfiawnder troseddol. Ond rwyf i o'r farn y dylai plismona ynddo'i hun gael ei ddatganoli. Ceir nifer o faterion sy'n ymwneud â rhaniad y cyfrifoldebau; fe dynnodd sylw at sawl un ohonyn nhw. Mae honno'n drafodaeth barhaus ac mae'n un y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru yn cyd-fynd â hi hefyd, ac nid wyf i'n cael dim i anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd hi am hynny.

Rydym wedi parhau i warchod y cyllid ar gyfer diogelwch cymunedol oherwydd ffurfiad y setliad datganoli ar hyn o bryd. Dywedais ein bod am barhau i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yn y gyllideb nesaf. Rydym yn chwilio am adolygiad cynhwysfawr o wariant ar ddiwedd y flwyddyn hon, ond ein bwriad yw parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol, er nad wyf mewn sefyllfa i ddweud yn bendant y byddwn ni'n gwneud felly hyd nes y gwelwn beth ddaw—os daw hwnnw byth—yn sgil yr adolygiad eang o gyllid.

Credaf, o ran cyfraniad Mark Isherwood, mai'r unig beth yr oeddwn yn awyddus i'w godi mewn gwirionedd oedd ailadrodd fy sylwadau yn fy natganiad agoriadol ynghylch—. Os yw ef yn bryderus iawn ynghylch yr heriau gydag ariannu y mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn ymrafael â nhw ar hyn o bryd, yna dylai fod yn lobïo'n galed i weld y ddarpariaeth pensiwn gyfan yn cael ei chynnwys oddi mewn i'r setliad. Yn sicr nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, a honno yw'r brif broblem i'r heddluoedd, ac yn wir mewn nifer fawr o feysydd eraill. Nid yw Llywodraeth y DU yn ymddangos ei bod yn gallu deall os ydych chi'n datganoli telerau ac amodau i bobl yna mae eu pensiynau nhw'n dod gyda nhw, a dylai'r cyllid hwnnw lifo. Felly, fel yn yr holl sgyrsiau eraill o ran datganoli, rydym yn croesawu datganoli, ond byddem hefyd yn croesawu'r cyllid i ategu'r datganoli, ac yn sicr nid ydym wedi cael hwnnw.

Soniodd ef yn benodol am yr ardoll prentisiaeth, ac mae honno, wrth gwrs, yn enghraifft nodweddiadol o Lywodraeth y DU yn ymatal rhag datganoli'r arian i fynd â'i pholisïau—[Torri ar draws.] Ni wnaeth hynny. Cymerodd yr arian o'i chyllideb adrannol a'i roi mewn man ar wahân. Felly, roedd y swm cyflawn a gawsom y nesaf peth i ddim. [Torri ar draws.]

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi nodi, yn rhinwedd fy ngweinidogaethau blaenorol, y mater ynghylch cyllid yr ardoll prentisiaeth: mae'n eglur iawn na wnaeth Llywodraeth y DU  ddarparu arian ychwanegol i Gymru ar gyfer cyllid yr ardoll prentisiaeth i'r heddlu, nac ar gyfer unrhyw un ardal ddatganoledig arall, mewn gwirionedd. Mae'r ffigurau yn amlwg iawn i bawb eu gweld.

Dirprwy Lywydd, mae diogelwch cymunedol yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er bod y setliad yn well nag y byddai rhai wedi disgwyl, ceir heriau yn ei sgil o hyd, fel y dywedais, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona ar y rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i nodi a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosodd y defnydd llwyddiannus o'n 500 o swyddogion cymorth cymunedol ni.

O gofio nad oes unrhyw ddadl yn gyflawn y dyddiau hyn heb gyfeirio at Brexit, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw'r Aelodau at gyllid gwerth bron £0.5 miliwn ar gyfer gwaith yr heddlu gyda phartneriaid drwy fforymau Cymru Gydnerth lleol ar gyfer posibilrwydd Brexit heb gytundeb. Daw hyn o'n cronfa bontio'r UE gwerth £50 miliwn, yr ydym wedi ei defnyddio i gynorthwyo cyrff y sector cyhoeddus, cyrff y sector gwirfoddol a busnesau. Nid ydym yn gwario arian Llywodraeth Cymru i ariannu pethau sydd mewn gwirionedd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond fel yr ydym wedi ei gydnabod bob amser, mae gan luoedd yr heddlu swyddogaeth bwysig wrth baratoi gyda phartneriaid ar gyfer goblygiadau Brexit, ac yn arbennig felly'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Rydym ni'n falch o'u cefnogi drwy'r fforymau Cymru Gydnerth lleol.

Dirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:57, 12 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gan hynny, rydym yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.