Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 13 Chwefror 2019.
Weinidog, roeddwn yn falch o weld y contract economaidd newydd, o ystyried agwedd elyniaethus arweinyddiaeth eich plaid yn y DU tuag at fentrau preifat, yn enwedig canghellor yr wrthblaid. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau mai gwir bartneriaeth rhwng y cyhoedd a'r sector preifat, a'r Llywodraeth yn darparu'r amgylchedd gorau i fentrau preifat ffynnu, yw'r allwedd i lwyddiant economaidd yng Nghymru?