Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Chwefror 2019.
Buaswn yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod fod partneriaeth gymdeithasol yn hanfodol i hybu twf cynhwysol a sicrhau bod pob un ohonom yn cynnal yr un baich. Mae hynny'n golygu cynnwys y Llywodraeth. Mae'n cynnwys y sector cyhoeddus, mae'n cynnwys busnesau, ac wrth gwrs, mae hefyd yn cynnwys ein cydweithwyr yn yr undebau llafur. Rwy'n falch iawn fod Plaid Lafur y DU wedi cydnabod gwerth y contract economaidd ar gyfer hybu twf cynhwysol, ac rwy'n gobeithio y caiff ei fabwysiadu pan fydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio yn San Steffan.