Gorsafoedd Rheilffordd Newydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:15, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Gallaf—oherwydd bod angen gwneud cymaint o waith yn ystod y rhaglen asesu. Credaf ei bod yn bwysig dweud nad oes unrhyw bwynt symud cynlluniau i lefel achos busnes manwl oni bai ein bod yn gwbl hyderus fod modd iddynt arwain at achos busnes cadarn, a dyna pam fod y gwaith wedi bod mor helaeth. Ond mae'n werth nodi hefyd na chafwyd unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU, hyd yn hyn, ynghylch unrhyw ffrydiau ariannu newydd i gyflwyno gorsafoedd newydd ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Rwy'n dal i frwydro i sicrhau y darperir adnoddau ychwanegol, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fydd sicrhau bod yr arian ar gael i Gymru.