1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses arfarnu ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd? OAQ53413
Gwnaf. Mae proses asesu cam 2 wedi cymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd er mwyn sicrhau y dewisir y gorsafoedd iawn ar gyfer y cam nesaf, ond bydd yr ymarfer yn cael ei gwblhau y mis hwn, a bydd hynny'n caniatáu imi wneud cyhoeddiad ar y gorsafoedd a fydd yn cael eu hystyried yng ngham 3.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd yn deall, er enghraifft, fod trigolion Carno yn y rhanbarth a gynrychiolaf yn teimlo braidd yn rhwystredig oherwydd yr oedi parhaus. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi sicrwydd inni y bydd yr oedi'n dod i ben. A allwch roi esboniad inni ynglŷn â'r rheswm dros yr oedi a pham fod hyn wedi cymryd cymaint o amser?
Gallaf—oherwydd bod angen gwneud cymaint o waith yn ystod y rhaglen asesu. Credaf ei bod yn bwysig dweud nad oes unrhyw bwynt symud cynlluniau i lefel achos busnes manwl oni bai ein bod yn gwbl hyderus fod modd iddynt arwain at achos busnes cadarn, a dyna pam fod y gwaith wedi bod mor helaeth. Ond mae'n werth nodi hefyd na chafwyd unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU, hyd yn hyn, ynghylch unrhyw ffrydiau ariannu newydd i gyflwyno gorsafoedd newydd ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Rwy'n dal i frwydro i sicrhau y darperir adnoddau ychwanegol, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fydd sicrhau bod yr arian ar gael i Gymru.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nyhead i weld gorsaf drenau newydd yn gwasanaethu Abertyleri a chwm Ebwy Fach yn fy etholaeth. Rhannaf rai o'r pryderon a ddisgrifiwyd gan Helen Mary Jones o ran y broses a ddefnyddir i wneud y penderfyniadau hyn. Ymddengys i mi fod y model presennol yn rhoi canlyniad a fydd bob amser yn ffafrio ardaloedd â phoblogaethau uwch o lawer yn ninasoedd coridor yr M4 yn hytrach na chaniatáu inni wneud penderfyniadau a fydd yn ein galluogi i adeiladu a datblygu gorsafoedd newydd a seilwaith newydd yn y trefi bach yn y Cymoedd, ac mae Abertyleri yn enghraifft o hynny. A wnaiff y Gweinidog ystyried ailedrych ar y model presennol a'r ffurf o asesu er mwyn sicrhau bod cyfle i'n holl gymunedau ddangos pwysigrwydd cael gorsafoedd a fydd, yn achos Abertyleri, yn gwasanaethu pob rhan o gwm Ebwy Fach yn fy etholaeth, ac i sicrhau bod pob un o'r rhain yn cysylltu â'r metro newydd ac y gallant ddod yn ganolfannau trafnidiaeth a chyfleoedd gwaith?
Wel, carwn yn fawr newid y fformiwla ariannu a'r meini prawf, ond fel y gŵyr yr Aelod, mae graddau'r gymhareb cost a budd yn ffactor pwysig wrth benderfynu a fyddai Llywodraeth y DU yn ariannu gorsaf newydd, gan fod ariannu gorsafoedd newydd yn fater i Lywodraeth y DU, ac felly, rhaid inni ddefnyddio'r fformiwla ariannu a'r meini prawf asesu a fydd yn sicrhau bod unrhyw orsafoedd a gynigir, neu unrhyw gynigion a gyflwynir ar gyfer gorsafoedd newydd yn cael y cyfle gorau posibl o lwyddo pan fyddant yn cyrraedd Whitehall. Rwy'n derbyn—yn enwedig fel Aelod sy'n cynrychioli ardal wledig, rwy'n derbyn bod hwn yn fater pwysig o ran cyflawni gwelliannau mewn ardaloedd llai poblog. Hyd nes ac oni bai bod cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli, a setliad ariannu teg yn dod gyda hynny, bydd yn rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithio'n unol â fformiwla Llywodraeth y DU. Pe bai'r gyfres benodol hon o bwerau yn cael ei datganoli, wrth gwrs, gellid blaenoriaethu cynlluniau rheilffyrdd yn erbyn ystod ehangach o fesurau ac amcanion, a byddant yn ein dwylo ni.