Gorsafoedd Rheilffordd Newydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:14, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd yn deall, er enghraifft, fod trigolion Carno yn y rhanbarth a gynrychiolaf yn teimlo braidd yn rhwystredig oherwydd yr oedi parhaus. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi sicrwydd inni y bydd yr oedi'n dod i ben. A allwch roi esboniad inni ynglŷn â'r rheswm dros yr oedi a pham fod hyn wedi cymryd cymaint o amser?