Tasglu'r Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:10, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Ar 27 Tachwedd y llynedd, gwnaed datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr union gynllun cyflawni hwnnw yn y Siambr hon. Ers hynny, mae wedi cael dyrchafiad i'r meinciau cefn—[Chwerthin.]—a'r Dirprwy Weinidog sydd bellach yn gyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, un o'r pethau a addawodd Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu oedd cronfa gyfalaf £25 miliwn i gefnogi saith canolfan strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae un o'r canolfannau hynny yng Nghaerffili. A yw'n llwyr gefnogi'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet fis Tachwedd diwethaf, a'r ymrwymiad hwnnw'n benodol?