Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch. Mae tasglu'r Cymoedd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yng Nghaerffili, gan gyflawni nifer o'r ymrwymiadau yng nghynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, ein Dyfodol', gan gynnwys datblygu canolfan drafnidiaeth integredig ac uwchgynllun strategol, a datblygu safle porth darganfod fel rhan o barc rhanbarthol y Cymoedd.