Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn, ac felly dwi'n gobeithio na fydd yn rhaid i mi ofyn y cwestiwn yna eto yn y Siambr yma. Agwedd arall ar y gwaith, wrth gwrs, ydy'r effaith ar yr economi'n lleol. Pa waith ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i wneud yn siŵr y bydd gweithwyr lleol a busnesau lleol yn cael y budd mwyaf posib allan o'r cynllun pwysig yma?