Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 13 Chwefror 2019.
Wel, mae'n £135 miliwn sy'n cael ei wario ar y darn penodol hwn o seilwaith. Drwy'r ymarfer caffael, drwy gytundebau gyda chontractwyr, ein bwriad yw sicrhau bod busnesau lleol yn cael y cyfle gorau posibl i elwa o'r cynllun. Rydym hefyd yn ymgysylltu gyda'r awdurdod lleol a Sustrans—boed hynny ar yr ochr fusnes neu o ran teithio llesol—i sicrhau y ceir cyfleoedd i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl elwa o ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd.