1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn agor? OAQ53411
Roeddwn yn falch iawn o gael nodi dechrau'r cyfnod adeiladu ar 17 Ionawr ar gyfer y prosiect seilwaith mawr hwn yng ngogledd Cymru, ac oni cheir unrhyw broblemau annisgwyl, bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn mis Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, ac felly dwi'n gobeithio na fydd yn rhaid i mi ofyn y cwestiwn yna eto yn y Siambr yma. Agwedd arall ar y gwaith, wrth gwrs, ydy'r effaith ar yr economi'n lleol. Pa waith ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i wneud yn siŵr y bydd gweithwyr lleol a busnesau lleol yn cael y budd mwyaf posib allan o'r cynllun pwysig yma?
Wel, mae'n £135 miliwn sy'n cael ei wario ar y darn penodol hwn o seilwaith. Drwy'r ymarfer caffael, drwy gytundebau gyda chontractwyr, ein bwriad yw sicrhau bod busnesau lleol yn cael y cyfle gorau posibl i elwa o'r cynllun. Rydym hefyd yn ymgysylltu gyda'r awdurdod lleol a Sustrans—boed hynny ar yr ochr fusnes neu o ran teithio llesol—i sicrhau y ceir cyfleoedd i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl elwa o ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Fel y dywedoch, a phan dorroch y dywarchen gyntaf ar 17 Ionawr, roeddech yn rhagweld y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn Hydref 2021. Pa fesurau diogelu cytundebol a sicrhawyd gennych mewn perthynas â hynny, ac o ystyried y pryderon a fynegwyd gan rai busnesau mawr lleol pan gyhoeddwyd y ddau lwybr cyntaf a ffafrir na chynhaliwyd asesiad o'r effaith ar fusnesau lleol, pa drafodaethau a gawsoch gyda hwy ynglŷn â mesurau lliniaru posibl i leihau unrhyw effaith negyddol arnynt?
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn werth dweud bod proses ymgynghori helaeth wedi'i chynnal fel rhan o'r rhaglen i asesu pa lwybr a ffafrir. Byddai'r ffordd osgoi fel y'i cynllunnir ar hyn o bryd—y 9.7 km o ffordd newydd—yn cael gwared ar draffig trwodd o nifer o gymunedau. Mae'r cymunedau hynny wedi galw am y buddsoddiad hwn. Rwy'n derbyn bod rhai—rhai—busnesau wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r effaith andwyol y gellid ei phrofi o ganlyniad i gael gwared ar draffig oddi ar ffyrdd yn y cymunedau hynny. Fodd bynnag, o'r hyn a ddywedwyd wrthym gan y busnesau hynny yn ystod y broses ymgynghori, nid oes digon o dystiolaeth i awgrymu y byddai'r busnesau hynny'n cael eu tanseilio'n ddifrifol o ganlyniad i adeiladu'r ffordd osgoi. Credaf ei bod yn bwysig ystyried bod cryn dipyn o gefnogaeth i'r cynllun penodol hwn yn yr ardal.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.